Urien - Brenin o'r Hen Ogledd

Rhifyn 16 - Brenhinoedd a Breninesau
Urien - Brenin o'r Hen Ogledd

Yn y chweched ganrif, roedd pobl yn siarad Cymraeg mewn ardaloedd sydd yng ngogledd Lloegr ac yn ne'r Alban nawr (gweler y map).Yr Hen Ogleddyw'r enw Cymraeg ar yr ardaloedd hyn heddiw.

 

Brenhinoedd yr Hen Ogledd

Roedd sawl teyrnas yn yr Hen Ogledd. Roedd brenin i bob teyrnas, a bardd gan sawl brenin. Yn nheyrnas Rheged,Urienoedd enw'r brenin. Enw ei fardd oeddTaliesin.

 

Cerddi Taliesin

taliesin.png

Darn allan o Lyfr Taliesin.

Roedd Urien yn rhoinawddi Taliesin. Beth oedd y nawdd? Dydyn ni ddim yn hollol siŵr, ond mae'n debyg mai pethau fel llety, bwyd, dillad ac ati. Felly, roedd Urien ynnoddiTaliesin.Am y nawdd, roedd Taliesin yn cyfansoddi cerddi i Urien.

Mae 12 cerdd gan Taliesin ar gael o hyd heddiw. Maen nhw mewn Hen Gymraeg, felly mae'n eithaf anodd eu deall nhw. Yn y cerddi, mae Taliesin yn moli Urien neu ei fab Owain fel:

  • noddwr hael
  • amddiffynnydd cadarn

Ar ddiwedd sawl cerdd, mae Taliesin yn dweud mai moli Urien sy'n gwneud iddo fod yn hapus.

Mewn un gerdd, mae Taliesin yn sôn am Urien, Owain ei fab a'u milwyr mewn brwydr fawr yn erbyn rhywun o'r enw Fflamddwyn (dyn sy'n cario fflam/tân). Ar ddiwedd y gerdd, mae Taliesin yn disgrifio sut enillodd Urien ac Owain y frwydr a lladd Fflamddwyn. 

Mae cerddi Taliesin mewn llawysgrif o'r enw Llyfr Taliesin. Mae'r llyfr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ardaloedd sawl ardal (rhan o’r wlad) areas
teyrnas(oedd) teyrnas(oedd) kingdom
nawdd help, cymorth sponsorship
llety lle i fyw accommodation
noddi rhoi help, cymorth (bwyd, dillad, arian to sponsor
cerddi darnau o farddoniaeth poems
moli dweud bod rhywun/rhywbeth yn dda, canmol to praise
hael yn fodlon rhoi generous
amddiffynnydd rhywun sy’n amddiffyn defender
defender solet, cryf firm, steadfast
llawysgrif rhywbeth a gafodd ei ysgrifennu â llaw manuscript