Ar Lan y Môr …

Rhifyn 18 - Yma ac Acw
Ar Lan y Môr …

Darllenwch y ddwy gerdd yma sy'n sôn am yr un lle - glan y môr.

Ar Lan y Môr

Ar lan y môr mae rhosys cochion;

Ar lan y môr mae lilis gwynion;

Ar lan y  môr mae 'nghariad inne

Yn cysgu'r nos a chodi'r bore.

Traddodiadol

image1top_497x395.jpg

Penillion Ar Lan y Môr

Ar lan y môr, mae tuniau rhydlyd

Ar lan y môr, mae sbwriel hefyd,

Ar lan y môr, mae bagiau plastig

Ac olew du ar garreg lithrig.

rubishonbeach_499x323.jpg

Ar lan y môr, mae gwylan gelain

Fu'n hedfan ar adenydd buain:

Yn awr, mae'n gorwedd ar y tywod,

Ymhlith y baw a'r holl ffieidd-dod.

dollaronbeach_497x370.jpg

 

birdbeachbottom_498x260.jpg

Mihangel Morgan

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
rhydlyd sy’n rhydu rusting
llithrig ansoddair o “llithro” slippery
gelain corff wedi marw corpse
buain lluosog buan – cyflym quick, fast
baw budreddi dirt
ffieidd-dod pethau ffiaidd disgusting things
inne innau; ffurf bwysleisiol ar ‘i’ (fi) my