Ddydd Mawrth, 9 Hydref 2012, roedd Malala Yousafzai, merch 15 oed, ar ei ffordd adref o'r ysgol yn ardal Swat yn Pakistan. Roedd hi wedi gwasgu i mewn gyda'i ffrindiau a'i hathrawon ar y lori heb gefn, neu'r 'bws ysgol'. Doedd dim ffenestri, dim ond darnau o blastig melyn a'u hymylon yn curo yn y gwynt. Yn sydyn, daeth fflach o rywle. Fflach danbaid o ddryll. Cafodd Malala ei saethu yn ei phen a'i gwddf.
Cafodd Malala ei saethu oherwydd iddi fynegi barn ar flog ar y we ac mewn cyfweliadau i'r wasg ac ar y teledu. Mynegodd farn o blaid rhoi addysg i ferched. Roedd yn chwyrn yn erbyn y Taliban a oedd yn gwrthod gadael i ferched gael addysg pan oedden nhw'n rheoli ardal Swat. Roedden nhw hyd yn oed wedi gosod bomiau i ffrwydro ysgolion i ferched. Mynegodd farn am y ffordd roedden nhw'n cyfyngu ar fywydau menywod. Doedd menywod ddim yn cael mynd allan i weithio neu i siopa a doedd neb yn cael gwylio'r teledu. Cafodd fwy a mwy o sylw, ac oherwydd hyn, daeth yn darged i'r Taliban. Roedden nhw eisiau ei lladd hi. Cyhoeddon nhw sawl bygythiad mewn papurau newydd, a'u gwthio nhw o dan ddrws ei chartref.
Ac ar y dydd Mawrth hwnnw ym mis Hydref, penderfynodd y Taliban wireddu eu bygythiad i'w lladd. Ond methu wnaethon nhw. Goroesodd Malala, ac er iddi fod yn anymwybodol am gyfnod, gwellodd yn ddigon da i gael ei chludo i ysbyty yn Birmingham, Lloegr. Yno, cafodd lawdriniaeth i ail-greu ei phenglog a'i chlust.
Erbyn mis Mawrth, 2013, roedd Malala wedi gwella'n ddigon da i fynd yn ôl i'r ysgol - y tro hwn i ysgol i ferched yn Birmingham, dafliad carreg o'r ysbyty lle cafodd driniaeth.
Ym mis Hydref 2013, bydd Malala yn cyhoeddi ei hunangofiant: I am Malala. Ynddo, bydd hi'n sôn am ei bywyd, y saethu a hefyd yn adrodd stori'r 61 miliwn o blant eraill sy'n methu cael addysg yn y byd. Mae hi wedi dechrau ymgyrch i fynnu cael addysg i bob plentyn erbyn diwedd 2015.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
yn chwyrn | yn ffyrnig | fiercely |
cyfyngu | gwneud yn gaeth | to limit |
goroesi | byw drwy rywbeth | to survive |
anymwybodol | heb fod yn ymwybodol | unconscious |
gwneud safiad | dweud eich dweud/barn | to make a stand |
hunangofiant | eich stori bersonol chi | autobiography |
mynnu | dweud bod rhaid cael/gwneud rhywbeth | to insist |