Yr Ysgolion Cylchynol

Rhifyn 19 - Addysg
Yr Ysgolion Cylchynol

"Mam! Mam! Ga' i fynd i'r ysgol?" gofynnodd Thomas Jones, 14 oed, i'w fam, un bore ym mis Tachwedd 1752.

"Ysgol? Pam rwyt ti eisiau mynd i'r ysgol, 'machgen i?" gofynnodd ei fam. "Rwyt ti'n gwybod popeth sydd ei angen i weithio fan hyn ar y fferm."

"Dwi eisiau dysgu darllen, Mam," atebodd Thomas. "A fydd dim rhaid talu ceiniog."

"Diolch byth am hynny," ochneidiodd ei fam. "Does gen i ddim arian i roi dillad amdanat ti, heb sôn am dalu am yr ysgol. Ond beth am yr amser y byddi di'n ei golli o'r fferm?"

"Dim ond am dri mis bydd yr ysgol yn y pentre'," mynnodd Thomas. "A beth bynnag, mae llai o waith yn ystod y gaeaf. Meddyliwch, erbyn y gwanwyn, bydda i'n gallu darllen!"

"O'r gorau 'machgen i," meddai ei fam. "Hoffwn i ddod gyda ti, ond mae cymaint o waith i'w wneud ar y fferm, rhwng helpu dy dad a bwydo'r teulu enfawr yma. Mae dwsin ohonon ni gyd!"

Felly, i ffwrdd â Thomas Jones i'r eglwys i'r dosbarth darllen. Roedd dros dri deg o bobl yno - yn blant ac oedolion. Roedd eglwys yn oer a phawb yn rhynnu yn eu dillad carpiog.  Ond eto, roedd pawb yn frwd iawn eisiau dysgu darllen.

Dysgodd Thomas ddarllen o'r dechrau'n deg - llythrennau'r wyddor yn gyntaf, ac yna, rhoi geiriau at ei gilydd. Erbyn diwedd y tri mis, mae Thomas yn gallu darllen y Beibl Cymraeg a llyfrau crefyddol eraill. Yna, mae'r athro yn symud ymlaen i ardal arall, i ddysgu rhagor o blant ac oedolion.

 

Ysgolion Cylchynol

Pa air sy'n cuddio yn y gair 'cylchynol'?  'Cylch', wrth gwrs. Ysgolion cylchynol oedd yr enw ar yr ysgolion oherwydd eu bod nhw'n symud o un cylch i'r cylch nesaf. Dysgodd tua hanner poblogaeth Cymru - chwarter miliwn o bobl - ddarllen yn yr ysgolion hyn rhwng 1731 a 1761.

griffithjonesbodyimage.jpg

Griffith Jones, Llanddowror (1683-1761)

Griffith Jones oedd y dyn a sefydlodd yr ysgolion cylchynol. Roedd yn rheithor Llanddowror, sydd ger San Clêr yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn gweld bod plant ac oedolion Cymru'n methu darllen y Beibl yn Gymraeg. Felly, hyfforddodd athrawon i fynd allan i'w dysgu. Hefyd, ysgrifennodd dros 30 o lyfrau i helpu pobl i ddysgu darllen.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cylchynol symud o gylch(ardal) i gylch peripatetic
rhynnu teimlo’n oer iawn to be freezing, chilled
dillad carpiog dillad rhacs, dillad llawn tyllau ragged clothes
o’r dechrau’n deg o’r cychwyn cyntaf from the very beginning
crefyddol yn sôn am grefydd religious
poblogaeth (b) nifer y bobl sy’n byw mewn lle arbennig population
sefydlu dechrau to establish
rheithor swydd yn yr eglwys rector