Ysgolion yn Affrica ac yng Nghymru

Rhifyn 19 - Addysg
Ysgolion yn Affrica ac yng Nghymru

Addysg yn Affrica

Mae llai o blant mewn ysgolion yn Affrica nag sydd yng ngwledydd eraill y byd.  Mae 33 miliwn o blant yng ngwledydd Affrica sydd ddim yn mynd i'r ysgol, a 18 miliwn ohonyn nhw'n ferched.

 

Llythrennog v anllythrennog

Yng ngwledydd Ewrop a gogledd America, mae 99% o'r boblogaeth yn llythrennog. Ond yng ngwledydd Affrica, er bod y sefyllfa wedi gwella dros y degawdau diwethaf, mae tua 40% o bobl Affrica'n anllythrennog. Mae canran y menywod anllythrennog yn uwch, sef 50%.

 

Maint dosbarthiadau

Mae dosbarthiadau yn Affrica'n fawr iawn. Fel arfer, mae cyfartaledd o 40 disgybl i un athro, ond mae'r sefyllfa'n amrywio. Mewn rhai gwledydd, mae dros 60 disgybl i un athro.

 

Problemau cefn gwlad

Mae llawer o broblemau'n wynebu ysgolion yng nghefn gwlad Affrica:

  • Mae'n anodd cyflogi athrawon oherwydd bod y tâl yn isel a does dim llawer o bobl addas.
  • Mae'r rhai sydd wedi cael addysg yn aml yn symud i'r dinasoedd mawr neu i wledydd eraill.
  • Does dim llawer o adnoddau a llyfrau ac mae'r dosbarthiadau'n fawr iawn.

Felly, mae plant mewn ardaloedd gwledig fel arfer yn gwneud yn waeth na phlant o'r dinasoedd mewn profion.

 

Gwario ar ryfel yn lle addysg

Un o broblemau mawr gwledydd Affrica yw bod llawer o ryfeloedd a gwrthdaro'n digwydd yno. Felly, mae'n well gan y llywodraethau wario arian ar arfau a milwyr, yn lle addysg. Os bydd rhyfel yn digwydd, mae plant yn aml yn cael eu symud i wersylloedd i ffoaduriaid, felly maen nhw'n colli'r cyfle i gael addysg. 

 

Ysgolion Cymraeg

gwersi.jpg

Llun o Ysgol Sul yn Llechryd, lle byddai plant wedi cael eu gwersi yn Gymraeg

 

glantafschool.jpg

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

 

Cyn 1939, doedd dim ysgolion dyddiol Cymraeg, er bod ysgolion Sul yn cael eu cynnal yn Gymraeg. Roedd y gwersi yn yr ysgol dyddiol i gyd yn Saesneg. Agorodd Ysgol Gymraeg Lluest yn Aberystwyth ym 1939. Ysgol breifat oedd hi.

Ysgol Dewi Sant yn Llanelli oedd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf i gael ei hagor gan y cyngor sir. Agorodd hi ym 1947. Erbyn 1956, roedd 30 o ysgolion cynradd Cymraeg wedi agor.

Ysgol Glan Clwyd oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf. Agorodd hi ym 1956.

Erbyn hyn mae tua chwarter plant ysgolion cynradd Cymru, ac ychydig o 20% o blant ysgolion uwchradd Cymru'n derbyn eu haddysg yn Gymraeg.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llythrennog yn gallu darllen literate
anllythrennog ddim yn gallu darllen illiterate
degawd deng mlynedd decade
amrywio dangos amrywiaeth to vary
rhoi blaenoriaeth i rhoi’r lle blaenaf i to prioritise, give priority to
gwrthdaro ymladd/trais.e.e. rhwng dau grŵp conflict
ffoadur rhywun sy’n ffoi, e.e. rhag rhyfel refugee