War Horse

Rhifyn 20 - Rhyfel
War Horse

WAR HORSE

FFILM Y GANRIF!

ADOLYGIAD

italicbox.jpg

 

Bu'r ffilm War Horse, sydd wedi ei gosod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn llwyddiant mawr.

Addasiad o nofel Michael Morpurgo ydy'r ffilm ond mae'r sgriptwyr Lee Hall a Richard Curtis wedi benthyca sawl syniad o fersiwn lwyfan Nick Stafford. Fel yn y ddrama honno, nid yw'r ceffyl yn siarad yn y person cyntaf, diolch byth.

Mae'r stori yn dechrau mewn pentref eithriadol o dlws yn Nyfnaint ble mae'r ffermwr Ted Narracott yn prynu ceffyl bywiog o'r enw  Joey. Mae Ted yn yfed llawer iawn ond mae actio gwych Peter Mullan yn dangos nad ydy e ddim yn ddyn drwg. Mae'n chwilio am geffyl i dynnu ei aradr ac mae'n prynu Joey o ran sbeit i'w dirfeddiannwr, (David Thewlis), sydd hefyd eisiau'r ceffyl. Mae mab Ted, Albert, yn addo hyfforddi Joey i dynnu'r aradr ac mae'n benderfynol o wneud ei dad yn falch ohono.

Ac, yn wir, mae Albert, sy'n cael ei bortreadu yn deimladwy iawn gan Jeremy Irvine, yn dofi'r ceffyl ac yn dod yn ffrindiau pennaf gydag e ond maent yn cael eu rhwygo ar wahân. Mae'r teulu yn mynd i fwy o ddyledion ac wrth i'r rhyfel dorri allan yn Ewrop mae Ted yn gweld ei gyfle ac yn gwerthu Joey i'r fyddin. Mae Albert yn torri ei galon. Beth mae ef yn ei wneud tybed?  Rhaid gwylio'r ffilm i gael yr ateb!

Gwyliwch hi hefyd i weld sut mae Joey yn ymdopi ag erchyllteroedd y rhyfel a sut mae'n newid bywydau'r bobl mae'n eu cyfarfod. I ddechrau ceffyl capten golygus ym myddin Prydain (Tom Hiddleston) ydyw. Yna mae'n dod o dan ofal dau frawd ifanc o'r Almaen (David Kross a Leonard Carow), ac yn ddiweddarach ffermwr Ffrengig (Niels Arestrup) a'i wyres fywiog, (Celine Buckens).Yn nes ymlaen mae Joey yn cyrraedd y Somme. Yma mae siotiau erchyll o filwyr yn cysgodi yn y ffosydd a'r sieliau'n syrthio fel cenllysg arnyn nhw.

Gallai'r olygfa hon ddychryn gwylwyr ifanc ond efallai bod yr olygfa pan fo Joey yn mynd yn sownd wrth weiren bigog yn waeth. Wrth i bigiadau'r weiren rwygo i'w gorff mae milwr ifanc (Tony Kebbell) yn stopio'r saethu ac yn mynd yno i achub y ceffyl. Dramatig iawn!

Golygfa arall wnaeth greu argraff arna i oedd yr un ble mae dau filwr o'r Almaen yn cael eu saethu am geisio dianc.  Mae'r camera wrth ymyl melin wynt ac fel mae'r sgwad saethu yn anelu mae un o hwyliau'r felin yn chwifio'n dawel ar draws lens y camera. Rydym yn clywed crac a'r funud nesaf rydym yn gweld y cyrff yn syrthio i'r llawr. Ond dydyn ni ddim yn gweld y lladd. Gwych iawn!

O'r dechrau cyntaf mae'r golygfeydd yn anhygoel. Er bod teulu Albert yn dlawd mae'r golygfeydd crand gyda Joey yn eu gwneud yn arbennig. Y tirwedd hardd a cherddoriaeth gyfoethog Delius, Elgar a Vaughan Williams sy'n gwneud hyn. Mae'r olygfa o Albert a Joey yn aredig tir diffaith a'i droi yn gae ffres, gwyrdd yn fythgofiadwy.

Fel yn y nofel, Joey yw'r arwr. Mae dwy olygfa anhygoel o gyrch y cafalri. Yn yr ail un caiff Joey ei gipio gan yr Almaenwyr. Rhaid ei gwylio i'w gwerthfawrogi'n llawn.

Yn wir, mae'r ffilm yn wych, mae'n sentimental ac mae'n fendigedig o hen ffasiwn! Unwaith eto mae Spielberg wedi llwyddo i dynnu tannau'r galon.

Adolygiad gan Jeremy Thomas.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Cyfarwyddwr yr un sy’n cyfarwyddo director
Cynhyrchwyr y rhai sy’n cynhyrchu producers
Tirwedd Beth sydd i'w weld ar y tir landscape