Milwyr benywaidd yn ennill calonnau

Rhifyn 20 - Rhyfel
Milwyr benywaidd yn ennill calonnau

Roedd arddangosfa luniau Ali Baskerville, y cyn-aelod o'r awyrlu, yn un anghyffredin iawn. Pam tybed? Lluniau a dynnwyd yn Kabul a Helmand oeddynt. Dim yn anghyffredin yn hynny, meddech chi. Nac oes! Ond yr hyn oedd yn eu gwneud yn unigryw oedd mai lluniau o ferched yn ceisio creu perthynas â chymunedau yn Afghanistan oeddent.

Treuliodd Ali Baskerville chwech wythnos yn tynnu lluniau o Swyddogion Cyfathrebu Benywaidd yn gweithio gyda'r fyddin Brydeinig yn Affghanistan. Roedd saith o ferched wedi gwirfoddoli i wneud y gwaith - 5 ohonynt yn filwyr llawn amser, un yn aelod o Fyddin y Tir ac un yn athrawes yn y Fyddin.

1.jpg

Merched yn gwirfoddoli i adael eu bywydau ym Mhrydain i weithio gyda chymunedau yn Affghanistan.

Mae'r merched - sydd yn eu 30au - yn treulio deunaw mis i ddysgu'r iaith Pashto yn Lloegr cyn mynd i Afghanistan.

"Dydy merched ddim yn cael eu ystyried fel bygythiad allan yn fan'na,' meddai Ali, 'felly maen nhw'n cael eu derbyn gan y cymunedau yn well na dynion. Mae gan y rhai sy am wneud y gwaith yma dân yn eu boliau ac maen nhw'n cymryd y gwaith o ddifri.'

Diffyg preifatrwydd

Dywed Ms Baskerville fod y mrched sy'n gwasanaethu yn Affghanistan yn gallu delio gydag amgylchedd caled a pheryglus Afghanistan yn wych.

"Does dim preifatrwydd. Mae'n rhaid iddyn nhw frwshio eu dannedd ochr yn ochr â'r dynion a hyd yn oed ddefnyddio'r un babell i gael cawod. Ond maen nhw'n addasu yn dda iawn. Mae un o fy lluniau yn dangos merch yn dod allan o'r babell honno gydag arwydd y tu allan yn rhybuddio bod merch yno! Y merched eu hunain wnaeth yr arwydd

"Mae'n brofiad gwahanol iawn iddyn nhw.Gadawodd y ferch sydd ym Myddin y Tir, er enghraifft, ei gwaith fel nyrs mewn adran ddamweiniau mewn ysbyty yn Llundain i wirfoddoli yn Afghanistan."

2.jpg

Synnodd Ms Baskerville,hefyd, at allu'r merched i addasu i fywyd mewn gwersyll "Mae 'na babell mosgito ac fe orchuddiodd y merched hi gyda deunydd i wneud y lle yn fwy preifat a'r hyn ryfeddodd fi fwyaf oedd sut roedden nhw wedi troi rhan o'r babell yn ystafell fyw ble roedden nhw'n gallu gwylio Downton Abbey."

Sylwodd eu bod wedi mynd â dillad lliwgar gyda nhw. Roedden nhw am barhau i edrych yn fenywaidd.

Pan aeth y merched i'r arddangosfa bu'n rhaid i Ms Baskerville eu cyflwyno. Doedd neb yn eu hadnabod gan eu bod yn edrych mor fenywaidd mewn bywyd go iawn! 'Mae pobl yn aml yn dweud bod merched sy'n filwyr yn butchond dydy hynny ddim yn wir o gwbl. Roedd y merched wnes i dynnu eu lluniau yn hardd ac yn osgeiddig.'