Ni chafodd Gwyn ei siomi.
Yn ôl ei arfer, cofiodd Siôn Corn am bopeth
o'r beic i'r Batman,
o'r gemau i'r gwn.
Un plastig gwyrdd
A'i fwledi rwber yn anelu'n farwol.
Y bychan pumlwydd, yn ei ddillad milwr
Yn ymosod yn ei grwcwd
a lladd ei chwaer, ei nain a'i daid.
Y tri yn gelain ger y goeden Nadolig
Ar ddydd Gŵyl Tangnefedd.
Briwiau ei rieni'n gwaedu dros lawr y gegin.
Cyn i bawb atgyfodi'n deulu dedwydd
I fwynhau'r twrci!
*******
Gwn metel Gwyn yn llonydd
A'r bwledi dur yn gorffwys
O barch i'r Dolig
Cyn deffro eto fory yn barod i ladd.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Yn ei grwcwd | wedi plygu | bent |
Yn gelain | yn gorff | a corpse |