Cysgod Rhyfel

Rhifyn 20 - Rhyfel
Cysgod Rhyfel

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd byddai awyrennau rhyfel yn hedfan uwchben rhannau gwledig o Gymru ar eu ffordd i fomio dinasoedd fel Lerpwl ac Abertawe. Weithiau byddent yn gorfod gollwng eu bomiau ar y mynyddoedd ac weithiau byddai'r awyrennau yn syrthio. Hanes hynny yn digwydd yn Nyffryn Nantlle ger Caernarfon sydd yma.

Dynion y fyddin ydy 'bechgyn dillad glas Llaniago'.

 

'Hei, Emyr!' daeth Robat John i'n tŷ ni fel milgi ddydd Sadwrn a minnau ar ganol fy nghinio. 'Mae yna Spitffeiar wedi syrthio ar ben Mynydd Gaer. Brysia neu mi fydd hogia'r pentra wedi mynd â'r darnau gorau i gyd.'

Cipiais damaid o frechdan oddi ar y plat ac i ffwrdd â ni ar draws y caeau. Roedd nain wedi dweud lawer gwaith mai taro'r mynydd fyddai hanes un ohonynt ryw ddydd a hwythau'n hedfan mor isel, ac yn chwarae mig rhwng y creigiau.

Dwy filltir union oedd o'n tŷ ni i ben mynydd Gaer ac erbyn i ni gyrraedd roeddem allan o wynt yn lân. Tua hanner y ffordd i'r copa daethom ar draws Puw Plisman, yn bustachu dringo, ei helmed ddur ar ei ben a'i gas masg ar ei fron.

Ond erbyn cyrraedd pen y mynydd - siom. Roedd bechgyn dillad glas Llaniago yno o'n blaenau. Wyddwn i ddim pam iddynt drafferthu gan bod yr awyren wedi mynd ar ei phen yn erbyn y graig yn y niwl ac wedi ei malurio yn ddarnau mân. Gorweddai yn un sbloet ar hyd y mynydd a'r unig ddarn gwerth gafael ynddo oedd yr injian, ond roedd rhaff o'i chwmpas i atal neb rhag mynd yn agos ati.

Wedi i Puw Plisman a chriw o hogiau'r pentref gyrraedd, bu pawb wrthi'n ddiwyd yn helpu dynion Llaniago i hel y darnau o'r fawnog a dod â hwy yn bentwr taclus at ymyl yr injian. Doedd neb yn dweud dim os gwnaem ni gadw ambell i ddarn bychan ond bu Idris Felin Isaf yn lwcus ryfeddol yn cael gafael ar bâr o esgidiau peilot, bron yn newydd. Medrodd eu taflu o'r golwg dros y wal heb i neb ei weld ac ymhen rhyw bum munud neidiodd yntau ar eu holau yn slei bach a'u cuddio mewn swp o redyn crin.

'Y peilot ydy hwnna, ysti,' eglurodd Robat John wrth weld Puw Plisman yn helpu un o'r dynion i hel darnau coch, meddal oedd yn debyg iawn i rwber, a'u rhoi mewn sach fach ledr. 'Mae o wedi malu yn rhacs yr un fath yn union â'i eroplên.'

Rhaid ei fod yn dweud y gwir oherwydd doedd dim golwg o'r peilot yn unman, a doedd wiw i'r un ohonom fynd o fewn canllath i'r sach ledr.

Pa aethom tua throed y mynydd y prynhawn hwnnw, yr oedd bron i sachaid o ddarnau Spitffeiar gan y bechgyn i gyd. Yn yr ysgol fore Llun cefais ddeg o farblis am un darn, ugain o gardiau sigaréts am un arall ac am un a smotiau o waed arno cefais baced pump o Wdbeins gan Wil Jôs Ffariar.

Ymhen wythnos union yr aeth Idris Felin Isaf i ben Mynydd Gaer i chwilio am yr esgidiau. Ond pan roddodd hwynt ar ei draed gwelodd fod darn o ffêr a'r gwaed wedi fferru'n gacen arno, yn un ohonynt. Bu'n sâl fel ci ar hyd y ffordd i lawr ac yno mae'r esgidiau hyd heddiw, am wn i.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Chwarae mig chwarae cuddio hide and seek
Bustachu cael trafferth i wneud rhywbeth struggling
Malurio malu / torri to break
Sbloet sblash o liw exploitation
Mawnog tir gwlyb marshland
Rhedyn planhigyn gyda dail hir gwyrdd sy’n troi’n frown yn yr hydref fern
Fferru wedi rhewi frozen