BETH sy ar y fwydlen?

Rhifyn 21 - Gwahanol
BETH sy ar y fwydlen?

Beth rydych chi'n ei fwyta mewn diwrnod fel arfer?

Sawl pryd o fwyd rydych chi'n ei gael?

Ydych chi'n bwyta rhwng prydau bwyd - ydych chi'n cael tamaid i aros pryd? Beth ydych chi'n ei gael?

Ydych chi'n bwyta'n iach, yn eich barn chi? Pam rydych chi'n dweud hynny?

Allech chi fwyta'n iachach? Pam rydych chi'n dweud hynny?

 

Mae'r darn isod yn sôn am ddyn oedd yn arfer bwyta diet rhyfedd iawn - diet oedd ddim yn iach o gwbl!

 

Michael Lotito (1950-2007)

Pan fyddwch chi'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta'ch bwyd, efallai y bydd cyllell a fforc edi eu gosod yn daclus o'ch blaen chi.

image1.jpg

Fel arfer, rydych chi'n defnyddio'r gyllell a'r fforc i fwyta'ch bwyd. Fyddech chi byth yn bwyta'r gyllell a'r fforc! Ddylech chi ddim bwyta cyllell ... na fforc ... nac unrhyw ddarn arall o fetel! MAE'N DDRWG IAWN I CHI!

 

Ond roedd un dyn yn Ffrainc wrth ei fodd yn bwyta metel.  Michael Lotito oedd ei enw ac roedd e'n  byw yn Grenoble.

untitled-1.jpg

Pan oedd Michael yn naw oed, roedd ganddo gyflwr meddyliol arbennig o'r enw Pica. Roedd e eisiau bwyta pethau rhyfedd iawn. Un diwrnod, dechreuodd fwyta rhannau o deledu'r teulu. Yna, dechreuodd fwyta pethau rhyfedd eraill - pethau o fetel neu o wydr.

 

Wrth lwc, roedd ganddo leinin trwchus iawn i'w stumog a'i goluddion, ac felly doedd y pethau roedd e'n eu bwyta ddim yn achosi problemau iechyd iddo.

 

Roedd pobl yn rhyfeddu at ddiet Michael. Felly, penderfynodd ddechrau perfformio'n gyhoeddus. Roedd pobl yn dod o bell i'w weld yn bwyta tua kilogram o fetel ar y tro.  

Sut roedd e'n bwyta'r pethau hyn? Roedd e'n torri'r pethau metel yn fach ac yn yfed olew mineral a digon o ddŵr fel ei fod yn gallu llyncu'r metel.

 

Yn ystod ei oes, mae'n debyg ei fod wedi bwyta:

  • 18 beic
  • 15 trol siopa
  • 7 teledu
  • 2 wely
  • 1 pâr o sgis
  • 1 arch
  • 6 canhwyllwr
  • cadwyn 400 metr o hyd
  • 1 awyren Cessna 150. Cymerodd hi ddwy flynedd (1978-1980) i'w bwyta.

planeimage.jpg

Ond ...

doedd e ddim yn gallu bwyta wyau wedi berwi na bananas. Roedden nhw'n gwneud iddo deimlo'n sâl!

image2.jpg

Gair o gyngor!

Da chi, peidiwch chi byth â gwneud rhywbeth mor ddwl! Mae'n beryglus iawn, iawn!

infobox1.jpg infobox2.jpg

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tamaid i aros pryd ychydig o fwyd rhwng prydau bwyd snack
cyflwr meddyliol rhywbeth sy’n effeithio ar y meddwl mental condition
leinin y stumog yr haen ar y tu mewn i’r stumog lining
coluddion rhan o’r system dreulio bwyd intestines
arch bocs ar gyfer rhoi corff marw ynddo coffin
canhwyllwr addurn sy’n dal llawer o fylbiau golau neu ganhwyllau chandelier
da chi! er mwyn popeth! for goodness sake!
dwl gwirion stupid