Darllenwch y darn a dyfalwch beth yw'r gwaith.
Pan gefais i'r swydd yma, dywedodd y dyn wnaeth fy hurio i, "Cofia ddod â chadair haul a llyfr da oherwydd byddi di'n eistedd am oriau hir yn y swydd hon."
Roedd e'n iawn oherwydd dw i'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser yn eistedd. Fodd bynnag, dw i ddim yn cael cysgu, oherwydd rhaid i fi wylio'n ofalus ac weithiau rhaid i fi neidio ar fy nhraed a chanu'r acordion neu gloch. Mae hyn yn ddigon i ddychryn unrhyw un neu unrhyw beth! Pan dw i ddim yn eistedd, dw i'n cerdded yn ôl ac ymlaen ... yn ôl ac ymlaen... yn ôl ac ymlaen.
Pa gymwysterau sydd gen i? Wel, dw i wedi graddio mewn Saesneg a cherddoriaeth ond dydy'r cymwysterau hyn ddim yn bwysig yn y swydd hon a dweud y gwir. O leiaf dw i'n cael cyfle i fwynhau darllen llyfrau Saesneg a gwrando ar gerddoriaeth yn fy ngwaith. Dyma un o fanteision y swydd! Dw i wedi bod yn dysgu sut i chwarae'r consertina ers i fi ddechrau gweithio hefyd - a dw i wedi gwneud llawer o sudokus. Dw i wedi cael cyfle i wylio ceirw a gwiwerod hefyd.
Mantais arall yw'r wisg - efallai!? Nid pawb sy'n cael gwisgo cot oren llachar, trowsus thermal a thri phâr o sanau (er mwyn cadw fy nhraed yn gynnes) i'r gwaith.
Mae'r oriau gwaith yn iawn. Dw i'n dechrau am hanner awr wedi saith y bore ac yn gorffen am bedwar o'r gloch. Ddim yn ddrwg! Mae llawer o fy ffrindiau sy'n gweithio oriau hirach mewn swyddi prysur yn teimlo'n reit eiddigeddus, ond o leiaf maen nhw'n cael cyflog da. Dw i'n ennill tua £250 yr wythnos.
Yn anffodus, dim ond am ddwy neu dair wythnos y mae'r swydd hon yn para a bydd rhaid i fi chwilio am swydd arall cyn bo hir. Pa swydd arall sy'n cynnig cyfle i eistedd ... canu'r acordion ... cerdded yn ôl ac ymlaen ... yn ôl ac ymlaen ... gwylio byd natur ... ac ymlacio tra dw i'n gweithio? O, wel ...
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
hurio | rhoi gwaith i rywun | to hire |
dro arall | rhywbryd arall | another time |
cymwysterau | lluosog “cymhwyster” – beth rydych chi’n ei gael ar ôl gwneud cwrs neu basio arholiadau, e.e. TGAU, Lefel A, gradd o brifysgol | qualifications |
graddio | cael gradd - cymhwyster arbennig ar ddiwedd cwrs yn y brifysgol | to graduate |
prifysgol | coleg addysg uwch | university |
mantais, manteision | peth da, pethau da | advantage, advantages |
ceirw | lluosog “carw” | deer |
gwiwerod | lluosog “gwiwer” | squirrels |
eiddigeddus | cenfigennus | jealous |