Gwylio fideo: Guto Nyth Brân
Cafodd y darn hwn ei ddangos ar y rhaglen 'Heno', gan gwmni Tinopolis ar gyfer S4C. Rhodri Davies yw'r cyflwynydd.
Cyn gwylio'r fideo, trafodwch â phartner/fel dosbarth ac yna edrychwch ar yr eirfa:
Gwyliwch y fideo'n ofalus achos bydd cwestiynau wedyn!
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| yr oesoedd a fu | y blynyddoedd sydd wedi mynd heibio | times past |
| brodor/ion | person sy’n byw’n lleol | native/s |
| chwedloniaeth (e.b.) | hanes chwedlau ac ati | mythology |
| ysgyfarnog (e.b.)/od | anifail tebyg i wningen sydd â chlustiau hir | hare/s |
| gornest (e.b.)/au | cystadleuaeth | contest |
| cadnoid | mwy nag un cadno (llwynog) | foxes |
| cwplodd | gorffennodd | finished |
| trychineb (e.b.g.)/au | rhywbeth ofnadwy sydd wedi digwydd | disaster |
| gorfoleddu | bod yn hapus | rejoice |
| cofleidio | rhoi breichiau am rywun | to embrace |
| llongyfarch | dweud ‘da iawn’ wrth rywun arall | to congratulate |
| Nos Galan | 31 Rhagfyr | New Year’s Eve |
| yn y cyffiniau | yn y cyffiniau | in the area |
| arddel ei grefft | ymarfer ei grefft | practice the art |
| ffeithiau moel | dim ond ffeithiau, dim rhagor o wybodaeth | bare facts |
| Cwmni Arad Goch | cwmni drama o Aberystwyth sy’n teithio Cymru | Cwmni Arad Goch |