Gwaith Hyfforddwr Personol

Rhifyn 22 - Ffitrwydd
Gwaith Hyfforddwr Personol

Mae Helen Morris yn hyfforddwr personol. Mae hi'n gweithio mewn campfa yn Abertawe.

Dyma gyfweliad Gweiddi â Helen.

 

G:        Pam roeddech chi eisiau bod yn hyfforddwr personol?

H:        Ro'n i'n hoffi chwaraeon yn yr ysgol ac ro'n i eisiau gweithio gyda chwaraeon hefyd. Do'n i ddim eisiau gweithio mewn swyddfa neu mewn siop achos byddwn i'n casáu methu symud o gwmpas!

 

G:        Beth astudioch chi i wneud hyn?

H:        Gwnes i sawl tystysgrif a diploma, pethau fel Tystysgrif mewn Hyfforddi Ffitrwydd a Diploma mewn Hyfforddi Iechyd, Ffitrwydd ac Ymarfer.

 

G:        Beth yw'r gwaith yn union?

H:        Dwi'n gweithio gyda chleientiaid yn y gampfa. Rydyn ni'n edrych ar eu lefel ffitrwydd nawr ac yn ceisio gweld sut gallan nhw ddod yn fwy ffit a heini.

 

G:        Sut rydych chi'n gwneud hyn?

H:        Dwi'n cynllunio rhaglen ffitrwydd iddyn nhw. Dwi'n edrych ar ymarferion y gallan nhw eu gwneud ac yn gosod targedau tymor byr a thymor hir. Rhan bwysig arall o'r gwaith yw rhoi cyngor am iechyd a bwyta ac ati.

 

G:        Beth sy'n digwydd o ddydd i ddydd yn y gampfa?

H:        Dwi'n helpu'r cleientiaid gyda'r ymarferion ac yn gweld sut maen nhw'n dod ymlaen. Fel arfer dwi'n gallu gweld hyn  drwy wneud profion - er enghraifft, mesur curiad y galon a faint o fraster sydd ar y corff.

 

G:        Ydy'r gwaith yn anodd?

H:        Ydy, ond dwi'n mwynhau'n fawr iawn. Dwi'n cael cyfle i gwrdd â llawer iawn o bobl ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae'n rhaid gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos yn aml, achos dyna pryd mae pobl eisiau mynd i'r gampfa.

 

G:        Beth yw'r peth gorau am y gwaith?

H:        Gweld pobl yn cyrraedd eu targed, yn dod yn fwy ffit ac yn aros yn ffit. Dwi'n cael llawer o foddhad o hynny.

 

G:        Fyddech chi'n annog rhywun ifanc i wneud y gwaith?

H:        Byddwn, yn sicr. Ewch amdani! Mae angen hyfforddwyr personol. Mae pobl yn byw yn hirach ac maen nhw eisiau cadw'n heini.

 

G:        Beth hoffech chi wneud yn y dyfodol?

H:        Hoffwn i gael busnes hyfforddi ffitrwydd personol fy hun. Mae gweithio i mi fy hun yn apelio'n fawr ataf i.

 

G:        Diolch yn fawr am y cyfweliad, Helen.

bodyimage.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tystysgrif (b) rydych chi’n cael hon am wneud rhywbeth yn dda certificate
cleientiaid cwsmeriaid clients
curiad y galon pa mor gyflym mae’r galon yn curo heart rate
braster saim sydd ar y corff fat
boddhad teimlad hapus, bodlon satisfaction
annog ceisio cael rhywun i wneud rhywbeth to encourage