

Mae Maria wedi sefydlu cwmni arbennig sy'n cynnig antur i bobl ifanc a'u teuluoedd. Am fwy o wybodaeth ewch i www.burnseries.co.uk.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| sgafelli iâ | lluosog sgafell iâ, sef platfform trwchus o iâ neu rew sy’n sownd wrth y tir ond sy’n ymestyn dros y môr ac yn arnofio arno | ice shelves |
| crefasau | lluosog crefas, sef crac neu doriad e.e. mewn rhewlif | crevasses |
| rhewlifoedd | lluosog rhewlif, sef darn enfawr o rew sy’n symud yn araf dros y tir | glaciers |
| lluwchfeydd | lluosog lluwch / lluwchfa, sef eira sydd wedi cael ei chwythu i gyfeiriad arbennig gan y gwynt ac sy’n creu pentwr anferth | snow drifts |
| gwrthwynebwyr | lluosog gwrthwynebwr, sef rhywun sy’n cystadlu yn erbyn rhywun arall | opponents |
| lled-orwedd | hanner gorwedd | recumbent |
| sefydlog | ddim yn cael eu chwythu i bob cyfeiriad (gan y gwynt) | stable |
| crasboeth | poeth ofnadwy | sweltering |
| awchu | eisiau rhywbeth yn fawr | to yearn |