Annwyl Ddarllenwyr Gweiddi
Dw i'n byw yn y Ffindir ar hyn o bryd - rydyn ni wedi symud i fyw yma am dair blynedd oherwydd gwaith Mam.
Dw i wrth fy modd yma ond dw i'n colli rhai pethau, yn enwedig chwarae pêl-droed i dîm yr ysgol! Dw i wedi bod yn gofyn i fy ffrindiau oes tîm neu glwb pêl-droed yn yr ardal ac maen nhw wedi awgrymu fy mod i'n dechrau chwarae "pêl-droed y Ffindir"! Felly, dydd Sadwrn diwethaf, es i i weld gêm o "bêl-droed y Ffindir" ac roedd hyn yn brofiad rhyfedd iawn. Roedd yr holl gêm yn rhyfedd - ac yn ddoniol! Nid yn unig roedd y chwaraewyr yn chwarae mewn eira ond roedden nhw i gyd yn gwisgo esgidiau eira. Roedden nhw'n edrych yn rhyfedd iawn yn rhedeg o gwmpas yn yr esgidiau mawr. (Mae'r esgidiau hyn yn mesur 55cm wrth 22cm.)
Un peth doniol arall - wrth i chwaraewyr gocio'r bêl, roedden nhw'n cicio eira i fyny i'r awyr felly roedd unrhyw chwaraewyr eraill oedd yn sefyll gerllaw yn cael eu gorchuddio gan gawod o eira oer, gwlyb!
Mae'r rheolau'n ddigon tebyg i bêl-droed Ewropeaidd ond bod pum chwaraewr ac un gôl-geidwad mewn tîm. Mae rhai pethau'n whanaol, e.e.
Dw i wedi cael gwahoddiad i chwarae wythnos nesaf a dw i'n meddwl y gwna i roi cynnig arni. Efallai y bydd e'n hwyl, ond dw i ddim yn meddwl y bydda i'n ddigon da i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd!
Hwyl am y tro.
Dan.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Y Ffindir | Gwlad yn Sgandinafia | Finland |
colli | gweld eisiau, methu | to miss |
gerllaw | yn agos | nearby |
cael eu gorchuddio | cael (cawod o eira) drosynt | to be covered |
rhoi cynnig arni | trio, ymgeisio | to give it a go |