Cip ar Gemau’r Gaeaf

Rhifyn 24 - Chwaraeon Oer
Cip ar Gemau’r Gaeaf

Gemau Olympaidd y Gaeaf 1924

1924.jpg

  • Roedd y Gemau cyntaf yn Chamonix, Ffrainc, yn 1924
  • Cawson nhw eu cynnal rai misoedd cyn Gemau Olympaidd yr Haf. Roedd y Gemau cyntaf yn Chamonix, Ffrainc, yn 1924.
  • Roedden nhw'n para am 11 diwrnod.
  • Roedd 16 o wledydd yn cystadlu yn y Gemau hyn.
  • Roedd tua 285 o gystadleuwyr ond dim ond 11 o ferched.
  • Dim ond yn y gystadleuaeth sglefrio ffigur roedd y merched yn cael cymryd rhan.
  • Roedd 10,004 o bobl yn gwylio'r Gemau hyn.
  • Roedd 16 o gystadlaethau yn y campau canlynol:

-   bobsled

-   cyfuniad Llychlynnaidd (sgïo trawsgwlad a sgi naid)

-   hoci iâ

-   sgïo trawsgwlad

-   sgïo naid

-   sglefrio cyflymder

-   sglefrio ffigur.

infobox.jpg (1)

-          bobsled

-          cyfuniad Llychlynnaidd (sgïo trawsgwlad a sgi naid)

-          hoci iâ

-          sgïo trawsgwlad

-          sgi naid

-          sglefrio cyflymder

-          sglefrio ffigur.

Y Ffagl Olympaidd

torchimage.jpg

  • Ers 1964, mae'r ffagl Olympaidd yn cael ei chynnau yn Olympia, Groeg. Yna, mae'n cael ei chario o gwmpas y wlad lle mae'r Gemau'n cael eu cynnal - ac i ambell le arall hefyd.

Y Seremoni Agoriadol

opening.jpg

  • Fel arfer, mae seremoni agoriadol arbennig ar ddechrau Gemau Olympaidd y Gaeaf. Yn 1960, Walt Disney oedd yn gyfrifol am y Seremoni Agoriadol ac roedd hi'n seremoni anhygoel gyda:

-          bandiau a chorau ysgol

-          miloedd o falwnau'n cael eu gollwng i'r awyr

-          arddangosfa tân gwyllt arbennig iawn

-          2,000 o golomennod gwyn yn cael eu rhyddhau i'r awyr

-          baneri'r gwledydd yn cael eu gollwng i lawr i'r seremoni agoriadol ar barasiwtau.

Tipyn o sioe yn wir!

 

Gemau Paralympaidd y Gaeaf cyntaf

  • Cynhaliwyd Gemau Paralympaidd y Gaeaf cyntaf yn 1976 yn Sweden. Roedd cystadlaethau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg a phobl oedd wedi colli aelod o'u corff e.e. coes, braich ac ati.

 

Gemau eleni

  • Disgwylir i dros 2,500 o athletwyr gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2014. Maen nhw'n dod o dros 80 o wledydd ar draws byd.
  • Bydd mwy o gystadlaethau nag erioed ar gyfer merched.
  • Y rhain fydd y Gemau Olympaidd drutaf erioed yn y Gaeaf - byddan nhw'n costio dros 50 biliwn o ddoleri.
  • Bydd y cystadlaethau'n digwydd mewn dau le. Bydd y gweithgareddau ar y rhew yn digwydd yn Sochi, Rwsia, ar lan y Môr Du, a bydd y gweithgareddau ar yr eira yn digwydd ym Mynyddoedd Krasnaya Polyana, sydd lai na 40 munud o Sochi ar y trên.

map_625x276.jpg

Sochi yw'r ddinas gynhesaf i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf erioed. Gan fod y ddinas ar lan y môr, mae'r tymheredd yn eitha mwyn, gyda thipyn o law ar adegau.

 

Y tywydd

Roedd rhai o'r swyddogion yn Rwsia yn poeni na fyddai digon o eira i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi eleni ac felly maen nhw wedi bod yn storio tunelli a thunelli o eira ers gaeaf y llynedd. Mae'r eira'n cael ei gadw o dan orchuddion arbennig sy'n adlewyrchu golau'r haul fel nad yw'n cynhesu. Bydd yr eira'n cael ei ddefnyddio yn y Gemau os bydd angen. Yn ogystal, mae peiriannau gwneud eira ar gael rhag ofn ... ac os bydd glaw yn broblem, mae technoleg arbennig ar gael ar gyfer cael gwared â'r cymylau glaw.

snowmaking.jpg

lastbox.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyfuniad dau neu fwy o bethau gyda’i gilydd combination
aelod rhan o’r corff, fel braich, coes ac ati limb
mwyn cynnes mild
adlewyrchu taflu (golau) yn ôl to reflect