Pentref Olympaidd Sochi

bodyimage.jpg (1)

bodyimage2.jpg

Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal yn Sochi, Rwsia ym mis Chwefror a bydd Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal yno ym mis Mawrth, ond ydyn nhw'n beth da neu'n beth drwg? Darllenwch y ddau lythyr yma.

 

31 Ionawr 2014

Annwyl Gweiddi,

Dw i wedi gwirioni ar y Gemau Olympaidd! Dw i wrth fy modd yn gwylio'r cystadlaethau ac yn rhyfeddu at allu anhygoel yr athletwyr. Mae pob un yn haeddu medal, mi dybiwn i!

Mi ddylai pobl Rwsia fod yn falch iawn o'r Gemau. Nid yn unig maen nhw'n gyfle i ddangos Rwsia ar ei gorau o flaen llygaid y byd ond mi fydd y wlad gyfan yn elwa ar y digwyddiad hwn am flynyddoedd i ddod. Mi fydd miloedd o bobl yn tyrru i'r Gemau ac, wrth gwrs, mi fyddan nhw'n gwario llawer o bres yno. Ac nid dim ond eleni! Mi fydd Pencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA yn cael ei chynnal yn Sochi yn 2018 yn ogystal â digwyddiadau Grand Prix yn y dyfodol. Felly, does gan neb le i gwyno - ddim hyd yn oed y bobl hynny sy'n tynnu sylw at y ffaith fod codi'r pentref Olympaidd a chreu'r system trafnidiaeth newydd wedi cael effaith wael ar yr amgylchedd.

Mi faswn i'n dweud bod bywyd pobl ardal Sochi wedi gwella'n sylweddol - diolch i'r gemau. Maen nhw'n cael rheilffordd a threnau newydd a fydd yn haneru'r amser teithio o fewn yr ardal - heb sôn am y system ffyrdd newydd (300 km, neu 186 milltir, o ffyrdd newydd!) a system carthffosiaeth newydd.

Tasai gen i ddigon o bres, mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn cael mynd i'r Gemau eleni, ond yn anffodus, doedd hynny ddim yn bosib. Hidiwch befo, mi wna i eu mwynhau nhw ar y teledu yn lle!

Hwyl i chi am y tro.

Sam

 

 

31 Ionawr 2014

Annwyl Gweiddi,

Mae bywyd wedi newid yn llwyr ers cyhoeddi bod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn dod i Sochi. Roedd y ddinas yn arfer bod yn lle hyfryd i fyw, gyda thwristiaid o wahanol rannau o Rwsia'n dod yma i fwynhau'r traeth a'r golygfeydd godidog yn yr haf. Heddiw, ar ôl blynyddoedd o waith adeiladu, mae pentref Olympaidd modern yma ac mae'r wlad o gwmpas wedi newid yn llwyr gan fod llawer o'r coedwigoedd wedi cael eu difetha er mwyn creu ffyrdd a rheilffordd newydd!

Mae'n hawdd i'r bobl o'r tu allan edrych ar y Gemau a theimlo'n llawn cyffro. Ond ydyn nhw'n gwybod bod pobl wedi colli eu cartrefi er mwyn codi'r pentref Olympaidd? Fel arfer, pan fydd gemau Olympaidd yn cael eu cynnal, mae'r adeiladau'n cael eu codi ar dir gwastraff ond yma, mae tai a chartrefi wedi cael eu dymchwel a chefn gwlad wedi cael ei anharddu.

A beth am y gost? Y rhain fydd Gemau Olympaidd drutaf erioed yn y Gaeaf - dros 50 biliwn o ddoleri - dros dair gwaith yn fwy na chost Gemau Olympaidd Llundain yn 2012! Mae'n anhygoel bod gwlad sydd â chymaint o bobl dlawd ynddi yn gwario'r fath swm ar adloniant. Mae dros 18 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi yn Rwsia!

Mae'n wir fod y Gemau'n dod â gwaith i rai pobl - i'r cwmni sy'n gwneud y medalau, er enghraifft. Mae'n wir y bydd rhai pobl yn gwneud arian mawr o ganlyniad i'r Gemau, ond mae'n siŵr mai'r bobl gyfoethog fydd y rhain ar y cyfan. I'r pant y rhed y dŵr yntê!

Un peth da sy'n digwydd, fodd bynnag, yw bod mwy a mwy o bobl yn barod i wirfoddoli. Does gennyn ni ddim traddodiad cryf o wirfoddoli yn Rwsia, ond mae rhai pobl erbyn hyn yn awyddus iawn i roi eu hamser a'u hegni i helpu yn ystod y Gemau.

Bydd pobl o bob cwr o'r byd yn dod i'r dref i fwynhau'r Gemau - a phob lwc iddyn nhw. Dw i'n dymuno'n dda i bob athletwr fydd yn cymryd rhan ac i bawb sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd. Ond yng nghanol y miri, rhaid cofio bod yna ochr arall i'r holl sbloets!

Yn gywir

Ludmilla

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mi dybiwn i Byddwn i’n meddwl I’d would think
elwa ar gwneud yn dda yn sgîl rhywbeth to profit from
tyrru dod mewn tyrfaoedd, heidio to come in droves
system carthffosiaeth system draeniau sewerage system
hidiwch befo dim ots never mind
godidog gwych iawn stunning
llawn cyffro wedi cynhyrfu excited
dymchwel bwrw i lawr to knock down
anharddu gwneud yn hyll (an + harddu) to spoil
I’r pant y rhed y dŵr. Bydd y cyfoethog yn dod yn fwy cyfoethog. The water runs to the valley. (idiom)
gwirfoddoli gweithio heb dderbyn cyflog to volunteer
o bob cwr o’r byd o bob rhan / cornel o’r byd from all corners of the world
miri hwyl fun
sbloets gweithgareddau sy’n creu argraff drawiadol spectacle