Oer ...
Caewch eich llygaid a meddyliwch am Gemau Olympaidd y Gaeaf. Beth rydych chi'n ei weld yn eich meddwl?
Mae'n siŵr eich bod chi'n dychmygu tipyn o rew ac eira yn y cefndir oherwydd mae'r Gemau hyn yn cael eu cynnal mewn gwledydd oer fel arfer.
Y gwledydd sy'n oer iawn yn y gaeaf, fel Rwsia, Unol Daleithiau America, Norwy, Sweden a'r Swistir, sy'n gwneud yn dda yn y Gemau hyn fel arfer. Yn wir, Norwy yw'r wlad sydd wedi ennill y nifer fwyaf o fedalau - 303 o fedalau hyd yn hyn.
***
Poeth ...!
Nawr, caewch eich llygaid a meddyliwch am Jamaica. Beth rydych chi'n ei ddychmygu?
Go brin eich bod chi wedi dychmygu eira ... neu bobl yn sglefrio ... neu bobl yn teithio mewn bobsled!
Ond yn 1988, daeth tîm o'r ynys fach hon ym Môr y Caribî i Calgary, Canada, i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf. Devon Harris, Dudley Stokes, Michael White a Nelson Stokes oedd eu henwau nhw. Doedden nhw ddim wedi cael llawer o ymarfer ar y gamp a doedd ganddyn nhw ddim bobsled hyd yn oed, ond roedden nhw'n benderfynol o wneud eu gorau glas.
Daeth y pedwar dyn yn arwyr a chafodd ffilm ei gwneud amdanyn nhw - ffilm o'r enw Cool Runnings.
Adolygiad o Cool Runnings
Mae'r ffilm Cool Runnings, sydd wedi ei chynhyrchu gan Jon Turteltaub, yn sôn am dîm o Jamaica yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Calgary, Canada, yn 1988. Y prif actorion yw Leon Robinson, Doug E. Doug, Rawle D. Lewis, Mailk Yoba, Raymond J. Barry a John Candy.
Yn y ffilm, mae pedwar dyn o Jamaica yn penderfynu cystadlu yn y gystadleuaeth bobsled yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf. Ar y dechrau, does ganddyn nhw ddim syniad beth yw bobsled - rhaid iddyn nhw edrych am wybodaeth mewn llyfrau. Maen nhw'n dechrau ymarfer drwy ddefnyddio hen gart ar hyd ffyrdd cul Jamaica ac maen nhw'n cael ambell ddamwain! Yna, maen nhw'n cyrraedd Calgary - heb sled! Maen nhw'n cael benthyg hen fobsled ac maen nhw'n ei lanhau, ei beintio a'i enwi'n Cool Runnings. Ar ôl ambell dro trwstan, maen nhw'n cystadlu yn y Gemau.
Mae hon yn ffilm dda iawn am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae tipyn o hiwmor ynddi, e.e. wrth i un o'r tîm aros mewn rhewgell mewn fan hufen iâ er mwyn ceisio dod i arfer ag oerfel, neu wrth i'r tîm ymarfer symud gyda'i gilydd mewn bath (gan nad oes ganddyn nhw foblsed). Mae'r ddeialog yn ysgafn ac yn fywiog hefyd.
Mae'r cymeriadau'n wahanol i'w gilydd. Mae Sanka, (Doug E. Doug), a'i wy lwcus, yn ddoniol. Mae Yul Brenner (Mailk Yoba) yn gymeriad difrifol. Mae Derice (Leon Robinson) yn gymeriad penderfynol ac mae Junior (Rawle D. Lewis) yn gymeriad hoffus iawn. Fel mewn pob ffilm dda, mae tensiwn rhwng y cymeriadau hyn weithiau a rhwng un o'r cymeriadau a'i dad ac mae hyn yn gwneud y plot yn ddiddorol.
Mae'r ffilmio'n wych - mae'r golygfeydd o Jamaica ac o'r Gemau Olympaidd yn anhygoel - ac mae'r gerddoriaeth drwy gydol yn ffilm yn drawiadol. Mae'r gerddoriaeth reggae ar y dechrau yn creu naws arbennig ac mae'r band dur sy'n chwarae'n dawel yn y cefndir wrth i'r cystadleuwyr gystadlu yn y ras yn ein hatgoffa ni mai pobl o Jamaica sy'n cystadlu.
Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn 1993 a bellach mae i'w gweld ar DVD neu ar y we. Mae'n werth ei gweld - yn enwedig gan fod Gemau Olympaidd y Gaeaf ar fin cael eu cynnal eleni.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
troelli | troi a throi | to twist |
euraidd | lliw aur | golden |
go brin | dydy hi ddim yn debygol | hardly |
ambell ddamwain | damwain neu ddwy | a few accidents |
ambell dro trwstan | rhai problemau neu ddigwyddiadau anffodus | a few unfortunate incidents |
dod i arfer â | cyfarwyddo â, dod yn gyfarwydd â | to get used to |
difrifol | ddim yn ddoniol | serious |
tensiwn | tyndra | tension |
golygfeydd | beth rydyn ni’n ei weld | scenery |
yn drawiadol | mae’n creu argraff arnon ni | striking |
naws | awyrgylch | atmosphere |