Bloodhound SSC

Rhifyn 25 - Cyflym
Bloodhound SSC

bodyimagefirst.jpg

Car Uwchsonig Bloodhound SSC

bodyimage1.jpg (1)

Gall pawb fod yn berchen ar y Bloodhound!

bodyimage2.jpg

Injan y Bloodhound SSC

Beth yw hwn? Car neu roced? Ychydig o'r ddau, mae'n debyg!

Mae car uwchsonig Bloodhound SSC yn gobeithio cyrraedd cyflymder o 1000 mya ar y tir yn ystod 2014, a chreu Record Byd am Deithio ar y Tir. Mae injan jet Rolls-Royce ynddo, a roced arbennig i wthio'r car hyd at 1,000 mya (1,600 kya neu Mach 1.4). Mae'r prosiect yn debygol o gostio tua £6.6m o bunnoedd.

Bloodhound SSC a Phrifysgol Abertawe

Ar hyn o bryd, car uwchsonig Thrust sydd â'r record hon (763 milltir yr awr). Costiodd y prosiect hwnnw £2.8m. Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ddyluniodd Thrust, ac mae'r staff yno'n cydweithio ar brosiect Bloodhound hefyd. Maen nhw wedi bod yn gwneud ymchwil i weld pa fath o siâp sydd orau er mwyn gwneud i'r car deithio mor gyflym ag sy'n bosib.

Dyma rai o'r pethau maen nhw wedi bod yn edrych arnyn nhw:

  • siâp trwyn y car
  • siâp a maint yr adain
  • siâp mewnlif yr injan

Mae'r car wedi bod yn cael ei adeiladu ym Mryste ac yn ystod 2014, bydd yn cael ei brofi yn Ne Affrica. Cafodd trac 12 milltir o hyd, 2 filltir o led ei glirio yn Hakskeen Pan ar gyfer hyn. 

Pa mor gyflym yw 1,000 mya?

  • 150 metr ar amrantiad
  • Hyd pedwar a hanner cae pêl droed mewn 1 eiliad

Pwy fydd yn gyrru'r Bloodhound?

Asgell-gomander Andy Green fydd yn gyrru'r Bloodhound. Bydd yn gorwedd a'i draed yn wynebu'r blaen. Wrth i'r car gyflymu o 0 i 1,000 mya mewn 42 eiliad, bydd yn teimlo grym ddwywaith a hanner pwysau ei gorff (2.5g) a bydd gwaed yn rhuthro i'w ben.

Sut bydd y car yn arafu?

Er mwyn arafu'r car, bydd Andy Green yn gwasgu'r breciau awyr pan fydd y car yn mynd ar 800 mya. Yna, ar 600 mya bydd parasitwiau'n dod allan. Bydd yn gwasgu breciau disg ar 200 mya.

Beth fydd effaith hyn ar y gyrrwr?

Bydd Andy Green yn teimlo grym dair gwaith pwysau ei gorff (3g) wrth i'r Bloodhound arafu. Mae wedi bod yn ymarfer gyrru awyren ysgafn ben i waered er mwyn dod yn gyfarwydd â'r teimlad o gael gwaed yn rhuthro i'w ben.