Gwallt ac ewinedd

Rhifyn 25 - Cyflym
Gwallt ac ewinedd

Pa mor gyflym mae'r gwallt a'r ewinedd yn tyfu?

Gwallt

Ar gyfartaledd, mae gwallt pobl yn tyfu 1.25 centimetr y mis, sydd tua 15 centimetr y flwyddyn. Mae'n dibynnu ar sawl peth, er enghraifft, eich oed, a pha mor iach ydych chi. Y gwallt ar gorun eich pen sy'n tyfu gyflymaf.

bodyimage.jpg

Ewinedd

Dyma rai ffeithiau diddorol am ewinedd:

  • Mae ewinedd oedolion yn tyfu tua 3mm y mis.
  • Mae ewinedd plant yn tyfu'n llawer cynt nag ewinedd oedolion.
  • Pan fyddwch chi yn eich arddegau, mae ewinedd yn tyfu 50% yn arafach nag oedden nhw pan oeddech chi'n blentyn.
  • Mae ewinedd bysedd yn tyfu tair i bedair gwaith yn gynt nag ewinedd traed.
  • Mae ewinedd y llaw rydych chi'n ei defnyddio fwyaf yn tyfu'n gynt nag ewinedd y llaw arall.
  • Mae ewinedd bysedd yn tyfu'n gynt yn yr haf na'r gaeaf, ond dydy'r gwyddonwyr ddim yn gwybod pam.
  • Gall gymryd blwyddyn a hanner i ewinedd traed dyfu o'r bôn i'r brig, ac mae'n cymryd pedwar i chwe mis i ewinedd bysedd wneud yr un peth.

Sut mae cael eich ewinedd i dyfu'n gynt:

  • Os yw eich gwaed yn cylchredeg yn dda yn eich dwylo, bydd eich ewinedd yn tyfu'n gynt. Felly, ewch allan i ymarfer, neu curwch eich dwylo pan fydd eich tîm rygbi neu bêl-droed yn gwneud yn dda.
  • Gwisgwch fenig os yw hi'n oer y tu allan. Bydd hyn yn gwarchod eich ewinedd.
  • Mae ychydig o haul yn yr hydref a'r gaeaf yn helpu eich corff i greu fitamin D. Dyma'r fitamin sydd ei angen ar eich ewinedd y dyfu'n gyflym. Mae fitamin D mewn llaeth hefyd.
  • Bwytewch ddigon o brotein. Mae eich ewinedd wedi eu gwneud o brotein, felly cofiwch fwyta cyw iâr, pysgod, cig eidion, wyau, cnau a llysiau sy'n cynnwys protein i gadw eich ewinedd yn iach.