Camerâu cyflymder

Rhifyn 25 - Cyflym
Camerâu cyflymder

Camerâu cyflymder

Ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi cael ei ddal gan gamera cyflymder? Mae'n debyg eich bod chi, gan fod dros filiwn a hanner o yrwyr yn cael eu dal bob blwyddyn.

Beth yw pwynt camerâu cyflymder?

Maen nhw'n cael eu defnyddio fel bod mwy o gyrwyr yn cadw at derfynau cyflymder. Os yw gyrwyr yn gwneud hyn, mae llai o ddamweiniau'n digwydd, ac os oes damwain, mae llai o bobl yn cael anafiadau difrifol neu'n cael eu lladd.

Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Frenhinol dros Atal Damweiniau'n rhoi'r ystadegau hyn:

  • Os yw cerddwr yn cael ei fwrw gan gar sy'n gyrru 20 mya, mae ei siawns o ddod drwy'r ddamwain yn 90%.
  • Os yw cerddwr yn cael ei fwrw gan gar sy'n gyrru 30 mya, mae ei siawns o ddod drwy'r ddamwain yn 50%.
  • Os yw cerddwr yn cael ei fwrw gan gar sy'n gyrru 40 mya, mae ei siawns o ddod drwy'r ddamwain yn 10%.

Mae'n ffaith fod camerâu cyflymder wedi arwain at lai o bobl yn cael eu lladd, a llai o ddamweiniau difrifol ar y ffyrdd.

Faint o yrwyr sy'n goryrru?

Yn ôl ystadegau'r llywodraeth, mae 58% yn torri'r terfynau cyflymder ar ffyrdd 30 mya. Mae 57% yn torri'r terfyn cyflymder ar draffyrdd (70 mya).

Pwy sy'n debygol o fod yn goryrru?

Mae'r rhai sy'n debygol o fod yn goryrru'n cynnwys:

  • pobl sy'n gyrru fel rhan o'u gwaith
  • pobl sy'n dod o gartref ag incwm uchel
  • dynion ifanc.

Ydy pawb o blaid camerâu cyflymder?

Mae tri chwarter y gyrwyr sy'n aelodau o'r AA (cymdeithas foduro) o blaid camerâu cyflymder. Dadl y rhai sydd yn erbyn y camerâu yw eu bod nhw'n cael eu defnyddio i wneud arian yn unig (mae dros £100 miliwn y flwyddyn yn cael ei godi o'r dirwyon). Maen nhw'n honni bod y camerâu'n cael eu rhoi mewn mannau lle nad oes damweiniau'n digwydd, ond lle mae'n anodd i yrwyr gadw at y terfynau cyflymder.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dôl/dolydd cae/caeau meadow
caseg (e.b.) ceffyl benyw mare
ffrwyn y strap lledr ar ben ceffyl sy’n ei reoli wrth ei farchogaeth bridle
canllath can llath (mae llath yn eithaf agos at fetr) hundred yards
y mymryn lleiaf ychydig bach, bach the slightest amount
y tu draw yr ochr draw the other side
dyheu am eisiau’n fawr to long for
llamu neidio to jump
pen y daith diwedd y daith journey’s end