Y corff yn tyfu

Rhifyn 25 - Cyflym
Y corff yn tyfu

Pa mor gyflym mae pobl yn tyfu?

Rydyn ni'n tyfu ar gyflymdra gwahanol yn ystod ein bywydau.

 

Cyfnod cario - 40 wythnos cyn cael ein geni

Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni yn y groth ac yn tyfu'n gyflym iawn.

 

Babandod - ar ôl cael ein geni hyd at 2 flwydd oed

Rydyn ni'n tyfu'n gyflym yn ystod y cyfnod hwn ac yn dibynnu'n llwyr ar bobl eraill i ofalu amdanon ni. Pan fyddwn ni'n cael ein geni, mae ein pen yn fawr a'n coesau'n gymharol fyr.

 

Plentyndod - rhwng 3 a 10 oed

Yn ystod ein plentyndod, rydyn ni'n tyfu'n gyson, o ran ein corff a'n meddwl. Rydyn ni'n dechrau dod yn annibynnol. Yn ystod ein plentyndod, mae ein corff yn tyfu'n gyflymach na'r pen.

 

Glaslencyndod - rhwng 11 a 17 oed

Rydyn ni'n tyfu'n gyflym iawn yn ystod y cyfnod hwn, gyda rhai'n mynd yn dal yn sydyn iawn. Mae ein meddwl yn datblygu'n fawr hefyd ac rydyn ni'n dod yn fwyfwy annibynnol.

 

Oedolaeth - rhwng 18 a 65 oed

Dydyn ni ddim yn mynd yn dalach pan fyddwn ni'n oedolion. Dyma'r cyfnod pan fyddwn ni ar ein cryfaf ac yn hollol annibynnol.

 

Henaint - ar ôl 65 oed

Yn raddol, wrth inni heneiddio, rydyn ni'n mynd yn fwyfwy dibynnol ar bobl eraill wrth i'r corff ddirywio.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
croth (e.b.) lle mae’r ffoetws yn tyfu womb
dibynnu ar gorfod cael pobl eraill i’n helpu to depend on, to rely on
annibynnol heb fod angen neb arall i’n helpu independent
dibynnol ag angen pobl eraill i’n helpu dependent
glaslencyndod pan fyddwn ni’n dechrau troi’n oedolion puberty
yn fwyfwy yn fwy ac yn fwy increasingly
heneiddio mynd yn hen to get older
henaint cyfnod pan fydd rhywun yn hen old age
dirywio mynd yn waeth to deteriorate