Llong gyflymaf y byd

Rhifyn 25 - Cyflym
Llong gyflymaf y byd

Pa fath o long yw hi?

Fferi neu 'cat' yw hi.

Pa mor gyflym mae hi'n gallu teithio?

Mae hi'n gallu teithio tua 67 milltir yr awr.

Ble cafodd hi ei hadeiladu?

Cafodd hi ei hadeiladu ar ynys Tasmania, Awstralia.

bodyimage1.jpg

Beth sy'n gyrru'r llong?

Dau dyrbin nwy sy'n gyrru'r llong. Maen nhw'n debyg i'r rhai sydd mewn injan awyren.

Pa mor hir yw'r llong?

Mae hi'n 99 metr o hyd.

Beth yw enw'r llong?

Enw'r llong ywFrancisco, ar ôl y Pab Francis.

Ble bydd y llong yn teithio?

Bydd y llong yn teithio rhwng Buenos Aires yn yr Ariannin a Montevideo, yn Uruguay. Mae'r Pab Francis yn dod o Buenos Aires yn wreiddiol.

ferrycrossing.jpg

Pa mor hir yw'r daith?

Mae'r daith yn 140 milltir ar draws ceg afon Plate.

Ydy'r daith yn anodd?

Nac ydy. Mewn llong 'cat' fel hon, mae teithio ar y môr yn gallu bod yn anodd. Ond ar draws ceg yr afon, mae'r daith yn hwylus iawn.

Oes llongau cyflymach na hon yn y byd?

Mae cychod cyflymach, ond dim llongau cyflymach. Mae cychod modur yn gallu teithio'n gyflym iawn, dros 100 milltir yr awr yn hawdd. Ond mae'r llong hon yn gallu cario 150 o geir, a 1,000 o deithwyr.

 

Gallwch weld pa mor gyflym mae'r fferi'n teithio drwy edrych ar wefan YouTube:

http://www.youtube.com/watch?v=bQrtvI9E62c.