Siopau elusen

Rhifyn 28 - Ffasiwn
Siopau elusen

Ffasiwn o siopau elusen

Mae'r hwch wedi mynd drwy sawl siop ar y stryd fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Ond mae un math o siop wedi llwyddo - siopau elusen. Ers 2008 mae 30 y cant yn fwy ohonyn nhw. Gan fod arian yn brin, mae mwy a mwy o bobl yn chwilio am fargen.

Mae rhoi dillad i siopau elusen yn beth da - i'r elusen a hefyd i'r amgylchedd. Yn ôl Wrap, yr arbenigwyr ailgylchu, mae pobl Prydain yn anfon 350,000 tunnell o hen ddillad i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Felly os yw hi'n bosib ailddefnyddio'r dillad yn lle eu taflu, gorau i gyd.

Mae mwy na dillad hen ffasiwn mewn siopau elusen - mae'n bosib iawn y dewch chi o hyd i ddillad ffasiynol iawn, neu ddillad sydd wedi dod yn ffasiynol eto.

Dyma rai tips:                            

  • Penderfynwch cyn mynd allan beth hoffech chi ei brynu. Mae'n well gwneud hyn neu byddwch chi'n drysu wrth weld yr holl steiliau gwahanol yn y siop.
  • Mae ffasiwn yn troi mewn cylchoedd, felly mae'n bosib dod o hyd i rywbeth sydd yn y ffasiwn nawr mewn siop elusen, hyd yn oed os ydy e'n hen.
  • Yn wahanol i siopau arferol, dim ond un maint o bob dilledyn sydd mewn siop elusen. Ond, os ydych chi'n nabod rhywun sy'n dda am wnïo a newid dillad, gallech chi brynu rhywbeth sydd ychydig yn rhy fawr i chi, a gofyn i'r person ei newid.
  • Mae siacedi neu gotiau lledr yn fargen dda mewn siopau elusen. Byddech chi'n talu crocbris mewn siop arferol!
  • Chwiliwch am labeli da; mewn rhai ardaloedd, rydych chi'n gallu dod o hyd i labeli 'designer' os ydych chi'n lwcus.

body.jpg

Myfyrwyr a siopau elusen

Does dim llawer o arian gan fyfyrwyr, felly maen nhw'n dwlu ar siopau elusen.

'Dwi byth yn prynu dillad mewn siop arferol," medd Ffion o Abertawe, "achos dwi ddim yn gallu fforddio nawr, a bod yn onest. Efallai bod angen amser ac amynedd i chwilio drwy'r dillad mewn siop elusen, ond yn fy marn i, mae'n werth yr ymdrech. Rydych chi'n gallu cael cymaint yn fwy o ddillad am eich arian. Dwi'n prynu dillad sydd bron yn newydd, a hefyd dillad sy'n henach na fi! Mae fy mam yn dweud, "Pan wyt ti'n ifanc, rwyt ti'n gallu gwisgo unrhyw beth ac edrych yn grêt." Felly dyna dwi'n ceisio ei wneud, ac arbed arian ar yr un pryd!'.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mae’r hwch wedi mynd drwy’r siop mae’r busnes wedi methu the business has gone under/gone bust
safleoedd tirlenwi mae sbwriel yn mynd yma i gael ei gladdu landfill sites
drysu methu meddwl yn iawn to be/get confused
arferol cyffredin, fel arfer usual
dilledyn un darn o ddillad piece of clothing
crocbris pris llawer rhy uchel exorbitant price