Mae Huw Rees, neu 'Huw Ffash' yn enwog am roi help ffasiwn ar raglenni S4C.
Astudio
Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Huw i Goleg Celf Caerfyrddin. Roedd e eisiau bod yn ddylunydd graffeg. Ond pan oedd e yno, gwelodd ei fod yn dda iawn gyda ffasiwn.
Mynd i Lundain
Penderfynodd Huw symud i Lundain pan gafodd le i astudio yng Ngholeg Celf Ravensbourne. Roedd rhaid symud o Gaerfyrddin er mwyn cael profiad o fyd ffasiwn. Wedyn astudiodd yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.
Gweithio yn yr Eidal
Gweithiodd Huw yn Milan a Fflorens yn yr Eidal. Mae'r ddwy ddinas yn enwog iawn am ffasiwn. Yn Milan, roedd Huw yn gweithio gyda chwmni Max Mara.
Symud yn ôl i Lundain
Gweithiodd Huw i Warehouse, brand enwog ar y stryd fawr.
Gweithio mewn colegau
Mae Huw wedi gwneud llawer o waith yn darlithio ar ffasiwn mewn colegau a phrifysgolion.
Ar y teledu
Mae Huw yn amlwg iawn ar y teledu ers dros 18 mlynedd. Mae'n gyflwynydd ffasiwn ar raglenni 'Prynhawn Da' a 'Heno'. Ar 'Prynhawn Da', mae'n rhoi 'gweddnewidiad' i wylwyr. Mae'n dewis dillad iddyn nhw, ac mae pobl eraill ar y tîm yn gwneud eu gwallt a'u colur.
Siop dillad priodas
Mae gan Huw siop sy'n gwerthu dillad priodas yn Llandeilo.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dylunydd graffeg | person sy’n arbenigo mewn dylunio | graphic designer |
Coleg Celf Brenhinol | coleg arbennig ar gyfer astudio celf | Royal College of Art |
darlithio | rhoi darlith (mewn coleg/prifysgol) | to lecture |
amlwg | enwog; eglur, clir | prominent; obvious |
cyflwynydd | rhywun sy’n cyflwyno ar y teledu | presenter |
rhoi gweddnewidiad | newid y ffordd mae rhywun yn edrych | transform |