Bai ar gam

Rhifyn 29 - Perthyn
Bai ar gam

Ymson Geraint

geraint.jpg

Rydw i wedi cael llond bol. Fi sy'n cael y bai eto. Ar gam. Dim ond am mai fi ydy'r bachgen a mod i ddwy flynedd yn hŷn na Nia! Pam mae'n rhaid  i mam ochri gyda hi bob tro rydyn ni'n ffraeo? Hi ddechreuodd trwy fy ngalw i'n 'lembo twp'. Hy! Doeddwn i ddim wedi clywed am y boi na sy'n canu ar Stwnsh a does gen i ddim diddordeb ynddo fe chwaith!

Y broblem ydy ein bod ni yn y tŷ llawer mwy yn y gaeaf a does gan y ddau ohonon ni ddim yn gyffredin. Mae hi wedi gwirioni ar raglenni teledu tra rydw i'n ffan o rygbi a pheldroed.

Y gwir ydy ei bod hi'n eiddigeddus ohono i. Mae gen i griw mawr o ffrindiau ac mae'r merched yn ciwio i fyny i fod gyda fi. Rhyw ferched bach diniwed ydy ei ffrindiau hi a does gan fechgyn ddim diddordeb ynddi. Er ei bod hi'n dair ar ddeg oed mae hi'n anaeddfed a dyna pam mae hi eisiau sylw o hyd ac yn pwdu pan dydy hi ddim yn cael ei ffordd ei hun.

Rydw i'n ceisio'i hanwybyddu, aros yn fy llofft a chloi'r drws. Ond pam ddylwn i? Yn yr haf fe fydda i'n mynd allan o'r tŷ pan fydd hi'n mynd ar fy nerfau a finnau'n synhwyro bod pethau'n mynd yn ddrwg.

Mae mam yn dweud y dylwn edrych arni fel 'ffrind' ond os gwna i hynny mi fydd hi'n codi cywilydd arna i o flaen fy ffrindiau ac yn fy nilyn yn yr ysgol. Pwy sydd eisiau chwaer fach yn llusgo tu ôl iddo fe amser chwarae?

Mae hi'n codi hen grachod o hyd ac yn sôn am bethau rydw i wedi hen anghofio amdanyn nhw. Pethau pitw, dibwys fel pwy wnaeth hwfro'r carped cyn i dad a mam ddod adre fisoedd yn ôl.

Ymson Nia

nia.jpg

Bechgyn! Meddwl eu bod yn 'macho'. Geraint sy'n gwneud i ni fod yn hwyr yn yr ysgol bron bob dydd am ei fod yn treulio cymaint o amser o flaen y drych yn jelio'i wallt ac yn edmygu ei hun. Ac mae o'n flin trwy'r amser - ddim yn bwyta nac yn cysgu digon meddai mam. Mae mam hefyd yn dweud nad ydw i ddim yn deall teimladau Geraint. Pan orffennodd Julie gyda fe roedd hi'n dweud y dylwn fod yn 'amyneddgar' am ei fod yn mynd trwy 'gyfnod anodd'. Gwneud môr a mynydd o bethau ddywedwn i.

Efallai mod i'n mynd ymlaen ac ymlaen weithiau ac y dylwn i roi'r gorau i'w pryfocio a chau fy ngheg! Ond mae'n anodd! Merch ydw i! Rydw i hefyd yn ceisio cyfaddawdu (gair mawr mam - rhyw fath o gyfarfod yn y canol, rydw i'n meddwl) ond wnaiff Geraint ddim symud blewyn. Mae e'n bengaled fel mul.

Mi fydda i'n hoffi sôn wrtho fo am fy nghynlluniau ond dydy o'n cymryd dim sylw - dim diddordeb. Mi fydda i'n trio cymryd diddordeb yn ei bethau fe er nad ydw i'n deall dim am  rygbi.

Mae Elin yn dweud ei bod hi a'i chwaer yn ffraeo trwy'r amser hefyd. Maen nhw'n 'trafod' eu problemau, meddai hi, ac mae pethau'n gwella.. Ond pan fydda i'n trio siarad gyda Geraint wnaiff e ddim ymateb o gwbl, dim ond gadael yr ystafell a chau'r drws nes bod y tŷ yn ysgwyd. Efallai bod ganddo broblemau cyfathrebu. A dydy dad o ddim help o gwbl. Yr unig beth fydd e'n ei ddweud wrth mam ydy, 'Eu busnes nhw ydy e. Gad lonydd iddyn nhw! Rhaid iddyn nhw ddatrys eu problemau eu hunain. Mae'n baratoad da ar gyfer bywyd'. Ac yna bydd yn ôl yn gwylio'r teledu neu â'i ben mewn papur newydd. Dynion! Rydw i'n rhoi'r ffidil yn y to!