Jac, Guto Dafydd

Rhifyn 29 - Perthyn
Jac, Guto Dafydd

Ocê

Diweddglo'r nofel 'Jac' gan Guto Dafydd yw'r darn darllen hwn. Jac yw'r prif gymeriad ac wrth fynd ar ras traws gwlad gyda'r ysgol mae'n darganfod corff. Yn nes ymlaen caiff dyn arall ei lofruddio ac mae Jac yn chwarae ditectif. Roedd ei fam yn gweithio yn y Clwb Golff ond caiff ei chyhuddo o'r llofruddiaethau.


Roedd y daith o'r carchar yn ôl i'r dre yn hir a diflas. Edrychodd Jac ar lawr y car wrth basio'r ffordd lle torrodd Mam ar draws pan oedd yr hofrennydd yn eu dilyn, a'r traeth lle daeth popeth i ben, lle chwalodd pob dim. Ond roedd yr atgofion yn pylu bellach, yn mynd yn feddal fel breuddwydion.

Doedd Mam ddim fel Mam rŵan: yr ochr draw i'r bwrdd yn stafell ymweld y carchar, roedd hi wedi colli'r prysurdeb oedd yn ei gwneud yn hi ei hun. Eisteddai'r tri ohonyn nhw yr ochr arall i'r bwrdd yn llawn straeon am eu bywydau bob dydd; ar yr ochr arall roedd Mam yn ei dillad diflas, ac ôl dyddiau undonog, hir y carchar yn amlwg arni.

Erbyn hyn roedd pob dicter wedi diflannu. Doedd Jac yn dal ddim yn deall sut digwyddodd popeth - sut y tyfodd blacmel syml y tu hwnt i reolaeth, nes nad oedd Mam yn meddwl bod ganddi ddewis ond llofruddio dau ddyn. Roedd y cwbwl yn perthyn i ddrysfa gyfoglyd o ddigwyddiadau yn y gorffennol.

Ceisiai Mam wenu a chodi brwdfrydedd i holi eu hanes. Ond roedd y sbarc yn ei llygaid wedi mynd. Doedd hi ddim yn perthyn i'r byd go iawn, bellach.

Trodd Dad y car oddi ar y draffordd; roedd hi'n amser cinio. Aeth y tri i mewn i McDonalds a'r lliwiau llachar yn eu deffro, yn dod â nhw'n ôl at fywyd go iawn. Dechreuodd Jac a Lowri binsio'i gilydd yn y ciw; pan ofynnodd Lowri i Dad stopio Jac, dechreuodd Dad binsio'r ddau ohonyn nhw.

Aethant i fwyta'u byrgyrs wrth y byrddau y tu allan gan edrych dros y draffordd am y môr.

Ddywedodd neb ddim byd am Mam ond roedd hi'n amlwg fod meddyliau'r tri ohonyn nhw'n dal yn stafell ymweld y carchar. Hynny ydi, nes i Dad faglu dros gareiau'i sgidiau ar y ffordd at y bìn; syrthiodd yn heglog a doniol nes bod sôs coch a gweddillion Big Mac yn stremp ar hyd ei wyneb a'i grys. Chwarddodd Jac; chwarddodd Lowri; ac ar ôl rhywfaint o wgu, chwarddodd Dad hefyd.

Aeth Lowri i geisio sychu peth o'r saws a'r picls oddi arno. Gwenodd Jac wrth edrych arnyn nhw. Roedden nhw'n ocê.

Allan o: Jac gan Guto Dafydd. (Cyfres Pen Dafad) Y Lolfa.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
(g)wgu edrych yn flin frown