Cyfrifoldeb

Rhifyn 29 - Perthyn
Cyfrifoldeb

Araith

Diolch am y gwahoddiad i siarad yn y gynhadledd hon yn Ysgol y Waun. Rydw i'n meddwl bod trefnu cynhadledd ble mae oedolion, pobl ifanc a phlant yn dod ynghŷd i drafod eu cyfrifoldebau yn rhywbeth blaengar ac adeiladol iawn.

Ac, yn wir, yn ein cymdeithas ni heddiw mae plant yn cael eu hannog i fod yn 'bartneriaid mewn gwaith' gyda'u rhieni. A beth mae hyn yn ei olygu? Ie, parch at y naill a'r llall, rhannu barn, derbyn penderfyniadau, gosod a chadw at safonau a chaniatau hawliau.

Y peth cyntaf sy'n rhaid i ni oedolion ei gofio ydy bod gan blant hawliau. Mae'n rhaid  trafod pa dasgau sydd angen eu gwneud. Unwaith y bydd y plentyn a'r oedolyn wedi penderfynu fe ddylen nhw gyd-drafod i ba safon y dylai'r gwaith gael ei wneud. Ond rhaid i chithau blant a phobl ifanc dderbyn na allwn ni oedolion ddim derbyn 'gwneud dim' fel dewis! Unwaith y byddwch chi blant wedi dewis rhaid cadw at hynny a derbyn y canlyniadau! 

Syniad da ydy i ni rieni ofyn i'r plentyn, 'Faint o amser rwyt ti'n meddwl fydd ei angen arnat?'Mae'n rhoi perchnogaeth i'r plentyn ac fe fydd yn fwy parod i ymgyrraedd at y nod.

Mae amrywio'r tasgau yn arfer dda hefyd oherwydd rydych chi blant yn diflasu'n hawdd. Rydych chi'n hoffi symud ymlaen i wneud gwaith mwy heriol sy'n gwneud i chi deimlo eich  bod yn  tyfu i fyny. Gwir? 

A beth fyddai eich ymateb chi, blant a phobl ifanc, pe baech yn cael gormod o dasgau? Mynd ar streic, siw o fod! Felly, gofalwch rhag hynny, rieni! A chofiwch hefyd mai chi ydy'r 'model'. Os ydy ystafell wely'r rhieni fel tip oes gennych chi hawl i fynnu bod eich plentyn yn dwt a thaclus? Go brin! Ar y llaw arall, os ydych chi'n berffeithydd rhaid derbyn bod cartref yn lle llawn gweithgareddau. Nid showhouseydy e!

Beth, tybed, ydy'r cyngor pwysicaf i rieni? Peidio â gwneud dim dros blentyn os ydy e'n abl i'w wneud ei hun! Ie, dyna fyddwn i'n ei ddweud! Pam mae'n rhaid i'r fam slafio i smwddio crys sydd wedi cael ei gadw o dan bentwr o ddillad arall? Pam mae'n rhaid i'r tad drwsio pyncjar ar olwyn beic pan fo'r mab yn hollol abl i wneud hynny? Pam mae'n rhaid i oedolion hwfro? Wedi'r cyfan, mae'r holl deulu yn cario baw i mewn i'r tŷ!

Mewn llyfr wnes i ddarllen yn ddiweddar roedd yr arbenigwyr yn dweud y dylai plant mor ifanc â phump a chwech oed wneud pethau fel helpu i baratoi bocs bwyd i fynd i'r ysgol, plicio moron a thatws, plygu eu dillad yn daclus a dewis dillad ar gyfer trannoeth, cau criau esgidiau, ac ateb y ffôn yn gwrtais. Oeddech chi'n gwneud hynny yr oed yna? Neu a gawsoch chi eich difetha? Yn yr un llyfr roedd yn dweud y dylai plant naw oed ofalu am frodyr a chwiorydd iau, paratoi pryd syml o fwyd ac ennill arian am dasgau arbennig.

Ac erbyn cyrraedd yr ysgol uwchradd fel chi yma, roedd disgwyl iddyn nhw ennill arian am bethau fel gwarchod plant neu arddio i gymdogion, helpu gyda'r gofal a thrwsio yn y cartref, torri'r glaswellt a threfnu eu cyllideb personol trwy brynu anrhegion a chynilo. Roedd hyn oll, meddai'r arbenigwyr, yn cryfhau'r berthynas deuluol.

Felly, ai rhannu cyfrifoldebau yw'r ateb i'r gwrthdaro sy'n gallu digwydd rhwng rhieni a phlant? Ai cyd-drafod cyfrifoldebau cyn penderfynu arnyn nhw ydy'r ffordd at fywyd esmwyth a heddychlon yn y cartref? Fel mae'r plentyn yn gweld manteision cydweithio gyda'i rieni fydd e'n gweld bod ar bobl ei angen? Pan fo hyn yn digwydd pan mae'n ifanc iawn fydd e'n dod yn fwyfwy hunan ddibynnol ac annibynnol?

Rhowch gynnig arni i gael gweld!

Diolch am wrando.