Shwmae, Chris?
Rwy’n cael amser amazing (neu “anhygoel” fel mae Mr Williams yn dweud!) yma ym Mhatagonia. Roedd rhaid i bawb godi £2,000 cyn dod ond doedd hynny ddim yn broblem achos wnaethon ni gynnal parti gwisg ffansi, taith feicio noddedig a sioe ffasiynau. Ond ’na fe, rydyn ni yma nawr (am bythefnos!) ac mae bywyd yn hectig – yn hectig iawn!
Wnaethon ni gyrraedd ar ôl taith hir iawn. Yn gynta’, aethon ni ar fws i faes awyr Heathrow, Llundain. Wedyn, dalion ni awyren i Rufain – roedd yr awyren yn llawn dop achos roedd llawer o dwristiaid yn dod yma i weld y golygfeydd! Wnes i eistedd wrth ochr menyw oedd wedi cael ei geni ym Mhatagonia. Mae hi’n dal i fyw yma – ac mae hi’n siarad Cymraeg!
Wedyn, roedd taith hir o Rufain i Buenos Aires ac, ar ôl cyrraedd, newidion ni eto a dal awyren arall i Batagonia. Wedyn, taith mewn bws i’r ardal yma. Taith hir - mwy na diwrnod o ddrws i ddrws.
Rydyn ni wedi bod yn fishi iawn ers cyrraedd - wedi bod yn helpu yn Ysgol yr Hendre (ysgol Sbaeneg a Chymraeg), wedi bod yn helpu mas yn y Fenter Iaith (maen nhw’n cynnal digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal), wedi bod i gyngerdd - wnaethon ni i gyd ganu a gwneud sgets a, heno, rydyn ni’n mynd i asado - barbeciw. Tiwtoriaid Cymraeg yr ardal sy wedi trefnu hwn i ni. Byddwn ni’n cwrdd â rhai o’r dysgwyr sy’n dysgu Cymraeg yma. Rhyfedd meddwl bod pobl sy’n byw dros saith mil a hanner o filltiroedd I ffwrdd o Gymru yn dysgu Cymraeg!
Rydyn ni’n mynd ar daith i’r paith wythnos nesa ac mae llawer o bethau diddorol eraill wedi eu trefnu. Edrych ymlaen nawr. Ffaelu aros!
Wel, gorfod mynd i baratoi. Beth am gwrdd ar ôl i fi ddod gartre?
Wela i di.
Sam
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
yn fishi | yn brysur | busy |
paith | tir gwyllt, gwastad, di-goed | pampas |
ffaelu | methu | to be unable to, can't |
enbyd | peryglus | perilous |
crydd | rhywun sy’n gwneud esgidiau | cobbler |
gweledigaeth | syniad, dymuniad | vision |
gwladfa | rhan o wlad | province |
amgenach | gwell | better |
diffaith | anial, gwyllt, diffrwyth | desolate, barren |
diffrwyth | does dim byd yn tyfu yno | barren |
ddi-baid | heb stopio | ceaselessly |
hyderaf | dw i’n hyderus | I am confident |
ymddengys | mae’n ymddangos | it appears |