Roedd anturiaethwyr o Ffrainc, Denmarc, Gweriniaeth Tsiec, Sweden, Sbaen, Yr Iseldiroedd, Colombia, yr Ariannin a Gogledd America yng Nghymru ym mis Awst.
Pam?
Gan mai ras antur oedd hon, roedd rhaid i'r anturiaethwyr gymryd rhan mewn gwahanol fathau o weithgareddau anturus, e.e.
Roedd rhaid i'r anturiaethwyr ffeindio'u ffordd a rasio ar draws mynyddoedd, ar hyd afonydd, o gwmpas cestyll, o dan y ddaear ac o gwmpas tref. Roedd hi'n daith ddiddorol - a heriol.
"Rydyn ni wedi ceisio mynd â'r ras i rai o ardaloedd gorau Cymru, lle mae golygfeydd hardd, hanes a diwylliant diddorol. Felly, bydd y timau o dramor nid jyst yn rasio ond byddan nhw'n gweld lleoedd enwog fel cestyll - ac, os ydyn nhw'n lwcus, efallai draig!" meddai un o'r trefnwyr.
I ddarllen mwy am y ras cliciwch yma.
Mae mwy o wybodaeth am y ras yn Tasg 1.
Diolch i Rob Howard am wybodaeth am y ras yma.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cyfeiriannu | ffeindio'ch ffordd drwy ddilyn mapiau, cwmpawd ac ati | orienteering |
golygfeydd | lluosog o olygfa- rhannau o'r wlad sy'n cael eu gweld | scenery |
diwylliant | hanes, celf, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ffordd o fyw ac ati | culture |
anturiaethwyr | pobl sy’n hoffi antur | adventurers |
o dramor | o wledydd eraill | from abroad |