Rydyn ni'n cael ein bwyd o bob rhan o'r byd, e.e.
Ydy, mae'n bwyd ni'n dod o bedwar ban y byd. Ond tybed oes rhywbeth arall yn dod gyda'r bwyd weithiau?
Corryn neu bry cop yw'r anifail bach yma. Dyma'r False Widow Spider.
Oeddech chi'n gwybod bod cannoedd - miloedd efallai - o'r corynnod hyn yn byw yng Nghymru erbyn heddiw? Maen nhw'n byw mewn corneli tywyll, cynnes - yn y gegin efallai … neu tu ôl i'r cwpwrdd yn y lolfa o bosib … neu o dan eich gwely chi … neu hyd yn oed rhwng eich gobennydd a'r wal, efallai? (Gwell i chi wirio heno cyn diffodd y golau!!).
Sut maen nhw wedi dod i Gymru?
Mae'r ateb yn syml - mewn bocsys bananas! Mae arbenigwyr yn meddwl eu bod nhw'n sleifio i mewn i'r bocsys a'u bod nhw'n teithio gannoedd o filltiroedd i Gymru yng nghanol y bananas. Yna, pan fydd y bananas yn cael eu rhoi ar y silffoedd mewn siopau, mae'r corynnod yn dod allan o'r bocsys. Pan fyddwn ni'n prynu'r bananas ac yn mynd â nhw adre, mae'r corynnod yn ymgartrefu yn ein tai - mewn corneli tywyll yn y gegin … tu ôl i'r cwpwrdd yn y lolfa … o dan y gwely … neu hyd yn oed rhwng y gobennydd a'r wal efallai!
Mae pobl ar draws Cymru wedi dod ar eu traws nhw mewn gwahanol leoedd ac maen nhw'n beryglus. Maen nhw'n brathu ac mae'r gwenwyn yn mynd i mewn i'r corff. Rhaid cael triniaeth ar unwaith.
Felly, y tro nesaf y byddwch chi'n prynu bananas - neu'n cymryd banana o'r bowlen ffrwythau - byddwch yn ofalus - yn ofalus iawn!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Ynysoedd Dedwydd | ynysoedd oddi ar Ogledd Affrica | Canary Isles |
sleifio i mewn i | llithro i mewn i rywbeth yn dawel ac yn slei | to slip into |
ymgartrefu | gwneud eu cartref | to make a home, settle |
brathu | cnoi yn y de | to bite |
perlysiau | planhigion sy'n cael eu defnyddio llawer wrth goginio ac weithiau i wella afiechydon | herbs |
gellyg | ffrwythau melys - yr enw poblogaidd yw pêr. | pears |
boncyff | rhan isaf coeden - uwchben y pridd | trunk |