Hoffech chi deithio i’r gofod?
Wel, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu teithio o Gymru ymhell, bell i’r gofod cyn bo hir – os oes digon o arian gyda chi, wrth gwrs.
Sut hynny? Mae’r llywodraeth yn ystyried maes awyr yng Ngwynedd fel lle ar gyfer lansio rocedi yn y dyfodol agos - rhyw fath o faes rocedi.
Mae’r maes awyr yma yn Llanbedr, Gwynedd, yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae’n un o 8 o leoliadau posibl sy’n cael eu hystyried.
Gyda chwmnïau fel Virgin yn ystyried trefnu gwyliau yn y gofod, mae’n amlwg bod y syniad o deithio i’r gofod yn dod yn fwy poblogaidd ac ymhen hir a hwyr efallai y bydd mynd am drip bach i’r orsaf gofod, neu hedfan o gwmpas y lleuad, yn dod mor gyffredin â mynd i Lundain am y penwythnos. Pwy a ŵyr?
“Byddai cael maes rocedi yn Llanbedr yn wych i’r ardal achos byddai’n dod â llawer o swyddi yma,” dywedodd un o bobl yr ardal, “Byddai’n rhoi Llanbedr ar y map!”
Ond mynegodd un arall amheuon, “Maes rocedi yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri! Bobl bach, beth nesaf!”
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ystyried | meddwl am | to consider |
ymhen hir a hwyr | yn y diwedd | eventually |
yr orsaf ofod | gorsaf yn y gofod lle mae gwyddonwyr yn cynnal profion | space station |
Pwy a ŵyr? | Pwy sy'n gwybod? | Who knows? |
mynegi | cyfleu, dangos, dweud | to express |
amheuon | lluosog o amheuaeth, ansicrwydd | doubts |