Ras yr Wyddfa
Mae Ras yr Wyddfa’n enwog drwy'r byd. Mae’n dathlu 40 mlynedd eleni.
Ken Jones a gafodd y syniad o gynnal ras yn rhan o Garnifal Llanberis. Pan gafodd ei chynnal am y tro cyntaf, daeth 86 o bobl i gystadlu. Daeth y ras yn boblogaidd iawn, ac erbyn hyn, mae 500 o redwyr yn rhedeg y 10 milltir ar hyd Llwybr Llanberis i gopa’r Wyddfa ac yn ôl bob blwyddyn.
Mae llawer o redwyr o’r Eidal yn dod i Lanberis bob blwyddyn ers 1980, gan fod clwb rhedeg Llanberis wedi gefeillio â chlwb rhedeg Morbegno yn yr Eidal. Os edrychwch chi ar restr yr enillwyr ar wefan https://en.wikipedia.org/wiki/Snowdon_Race, fe welwch chi faner yr Eidal wrth ymyl enw’r enillwyr, o 1980 ymlaen.
Does dim llawer o ddamweiniau wedi digwydd yn y ras, drwy lwc. Mae mwy yn digwydd pan fydd y tywydd yn boeth, oherwydd bod rhai rhedwyr yn llewygu ac yn colli gormod o ddŵr o’r corff.
Mae dwy ras i ddynion a dwy i fenywod. Mae un ras o Lanberis i’r copa’n unig, a ras arall o Lanberis i’r copa ac yn ôl. Dyma’r recordiau ar hyn o bryd (2015).
BLWYDDYN |
RAS |
AMSER |
RHEDWR |
1985 |
Ras y Dynion |
1:02:29 |
K Stuart |
1993 |
Ras y Menywod |
1:12:48 |
C Greenwood |
1985 |
Ras y Dynion i’r Copa |
39:47 |
R Bryson |
1993 |
Ras y Menywod i’r Copa |
47:07 |
C Greenwood |
Mae S4C yn dangos uchafbwyntiau Ras yr Wyddfa bob blwyddyn.