workplace.jpg

Mae’r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn sgil ychwanegol sy’n fanteisiol i bobl sy’n chwilio am swydd.

Pam mae Cymraeg yn bwysig ar fy CV?

  • Mewn rhai rhannau o Gymru mae cwmnïau yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael trafferth i recriwtio staff sydd â’r sgiliau dwyieithog priodol.
  • Mae rhai cwmnïau yn recriwtio siaradwyr Cymraeg yn unig.
  • Mae pobl ifanc a busnesau newydd yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Mae llawer o Gynlluniau Iaith Gymraeg yn nodi: ‘Wrth benodi staff, bydd y sefydliad yn ystyried gallu yn y Gymraeg yn gymhwyster ychwanegol, os yw popeth arall yn gyfartal.’

 

Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud?

speech-bubbles.jpg

 

MAE’N FFAITH!!!!!

CANLYNIADAU GWAITH YMCHWIL YN DANGOS PWYSIGRWYDD DWYIEITHRWYDD

  • Disgyblion dwyieithog yn gwneud yn well na disgyblion uniaith mewn profion IQ a phrofion creadigol.
  • Pobl sy’n deall Cymraeg ar gyfartaledd yn ennill 60 ceiniog yn rhagor bob awr, neu oddeutu 9%.
  • Tua dwy filiwn o bobl yng Nghymru o’r farn ei bod yn bwysig i gwmnïau gynnig gwasanaeth dwyieithog.
  • Cwsmeriaid yn credu bod gwasanaethau Cymraeg a chynnyrch wedi’i becynnu’n dwyieithog o ansawdd uwch.
  • Defnyddio’r Gymraeg yn gwneud i gwsmeriaid deimlo’n gartrefol ac yn arwain at ffyddlondeb cwsmeriaid.
  • 70% o 300 o gyflogwyr yng Ngheredigion, Powys a Meirionnydd eisiau gweithwyr dwyieithog mewn rhai swyddi. Dros gyfnod o dri mis, roedd 56% o 40 o hysbysebion swyddi yn nodi anghenion iaith, gan gynnwys 21 (52.5%) oedd yn dweud fod y Gymraeg yn ddymunol ac 19 (47.5%) yn dweud fod y Gymraeg yn hanfodol.

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Diwallu bodloni satisfy