Mae mudiad Twf yn helpu rhieni i ddysgu Cymraeg i’w plant o’r crud.
Dyma un daflen gan y mudiad.
RHESWM
Wyddoch chi bod cyflwyno Cymraeg o'r cychwyn cyntaf yn...
Rwy’n browd iawn o’r iaith ac fe siarada i Gymraeg ble bynnag bydda i, yng Nghymru, neu mewn unrhyw ran arall o’r byd. Un o nghas bethe i yw clywed pobl sy’n Gymry Cymraeg rhugl yn siarad Saesneg â’i gilydd – ma fe’n digwydd yn llawer rhy amal y dyddie hyn.
Dwi’n cofio dyfarnu Mefin Davies pan o’dd e’n whare yng Nghaerlŷr. Ni’n dau o’dd yr unig Gymry Cymraeg ar y cae ond yn Gymraeg bues i’n siarad ag e drwy’r gêm. Ro’dd y chwaraewyr erill yn edrych yn hurt arnon ni!
Ma sawl un wedi bod yn anhapus mod i’n siarad Cymraeg gyda chwaraewyr. Ond nage trio neud pwynt ydw i; yn hytrach, rwyn neud’ny am ei fod e’n beth cwbl naturiol i fi’i neud.
Byddai’n beth da cael mwy o hyfforddwyr a chwaraewyr i ddysgu rygbi trwy gyfrwng y Gymraeg – un peth bach alle wneud gwahanieth ar y meysydd rygbi, a gwneud fy swydd i’n haws!
Rhan o Ragymadrodd Nigel Owens i’r llyfr Gwneud y Pethau Bychain (gol. Ffion Heledd Gruffudd)
Cymraes lân loyw o Sir Gaerfyrddin ydy Alex Jones ac mae’n eithriadol o falch o hynny. Er ei bod yn byw yn Llundain erbyn hyn ac wedi dod yn enwog trwy Brydain fel cyflwynydd The One Show yr hyn roddodd fwyaf o bleser iddi oedd cael ei derbyn yn aelod o’r orsedd yn yr eisteddfod genedlaethol, ‘Mae’n anrhydedd anferth i fi. Rydw i wrth fy modd,’ meddai.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Rhugl | siarad yn hollol iawn | fluent |
Whare | chwarae | playing |