Mae gyrru gwyllt wedi bod yn broblem ar ein ffyrdd ers tro. Sgrechian, rhegi a hyd yn oed ymosod! Mae’r cyfan wedi cael y label ‘Road Rage’.
Diffiniad o Yrru Gwyllt
Cafodd y term ei fathu gan orsaf newyddion lleol yn Los Angeles ar ôl i nifer o bobl gael eu saethu ar ffyrdd yn y ddinas. Y diffiniad swyddogol o road rage ydy ‘pan fydd gyrrwr yn peryglu bywyd neu eiddo, yn ymosod gyda cherbyd ar un sy’n gyrru neu’n teithio mewn cerbyd arall’.
Cwis Gyrru Gwyllt
Rwyt ti’n rhy ifanc i yrru ar hyn o bryd, ond meddylia sut mae aelod o dy deulu yn gyrru. Gofynna iddo/iddi ateb y cwestiynau hyn:
Os ydy’r person rwyt ti’n ei holi yn ateb ‘Ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau, mae’n bosibl ei fod yn gyrru’n wyllt!
Yna, gofynna’r cwestiynau hyn:
Wyt ti’n gwneud i yrwyr eraill wylltio pan fyddi di’n:
Ystadegau
Pan holodd cwmni Ingenie 3950 o yrwyr ym Mhrydain oedden nhw wedi dioddef ymddygiad gwael gan yrwyr gwyllt, cawson nhw wybod bod dwy ran o dair ohonynt wedi dioddef o hynny.
9%
15%
24%
Mae beiciwr wedi cael dirwy o £800 am ymosod ar yrrwr Alfa Romeo gyda chlo beic haearn.
Roedd y technegydd, John Bennet, 51, wedi beicio heibio i’r car wrth i’r gyrrwr, Robert Jochiaswn, droi yn Hammersmith ym mis Awst. Gan ofni damwain, canodd Mr Jackson ei gorn a gwylltiodd Bennet gan ddweud, ‘Dw i’n mynd i daro’ch car chi!
Gafaelodd yn y clo beic Kryptonite a malu’r Alfa Romeo.
Pan ddaeth Mr Jackson allan o’i gar, trawodd Bennet ef gyda’r clo gan gleisio ei ên.
Plediodd Bennet yn euog o ymosod ac o achosi difrod. Yn y llys, dywedodd y Barnwr Fiona Barr, ‘Roedd hwn yn brofiad ymosodol a gododd ddychryn ar Mr Jackson.’ Fodd bynnag, derbyniodd y Barnwr nad oedd y math yma o ymddygiad yn rhan o gymeriad Mr Bennet.
Dywedodd Bennet wrth y llys, ‘Daeth y car y tu ôl i fi mewn dull ymosodol ond dw i’n cyfaddef fy mod i wedi ymateb yn wael. Dywedodd Ben Lansbury, ei gyfreithiwr, fod Bennet wedi ymddiheuro i Jackson.
Clywodd y llys hefyd fod ffrind agos i Bennet wedi ei daro oddi ar ei feic yn yr un lle yn union flwyddyn yn ôl gan ei adael wedi ei barlysu.
Roedd Bennet yn ei ddagrau wrth i’w gyfreithiwr ddweud bod yr achos wedi effeithio’n ddrwg ar Rory, mab Bennet, sydd ar fin sefyll ei arholiadau TGAU.
Yn ychwanegol at dalu dirwy o dros £800, bydd yn rhaid i Bennet wneud 150 awr o waith cymunedol a dilyn cwrs adfer am 12 diwrnod.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
adfer | ail-ddysgu | rehabilitation |