Tudalen problemau

Rhifyn 36 - Gwrthdaro
Tudalen problemau

Derbyniwyd cyfeiriad llawn pob llythyrwr ond nid ydynt yn cael eu cynnwys ar y dudalen hon.

10 Mehefin 2016

Annwyl Sam,

Dw i ddim eisiau canmol fy hun ond dw i’n fwy clyfar na fy ffrindiau. Rai wythnosau yn ôl, dechreuodd fy ffrindiau fy mhrofocio a’m galw i’n "nerd" ac yn "geek". Erbyn hyn, mae pethau wedi gwaethygu. Pan gefais 100% mewn prawf Cemeg, fe wnaethon nhw fy mhwnio i a’r un peth pan ddes i’n gynta yn y dosbarth yn y prawf Ffrangeg. Doeddwn i ddim yn gwybod sut i’w stopio felly penderfynais i wneud yn wael yn fy mhrofion nesaf ar bwrpas. Wnaethon nhw ddim fy mhwnio pan gefais i 54% mewn Ffiseg, felly, gwnes i’n siŵr fy mod i’n methu pob prawf wedi hynny. Rydw i’n teimlo’n ofnadwy am hyn ac mae fy rhieni i’n flin am fy mod i wedi cael graddau mor isel.

Rydw i’n gobeithio bod yn ddoctor felly dydw i ddim eisiau methu TGAU a Lefel A ar bwrpas. Ond, methu ydy’r unig ffordd  os ydw i am osgoi cael fy mwlio. Beth wna i? Help!

 

M

11 Mehefin 2016

Annwyl M,

Diolch am dy lythyr. Mae’n swnio fel petaet ti mewn tipyn o benbleth. Cofia un peth – rydyn ni i gyd yn dda am wneud rhywbeth neu'i gilydd a dyna sy’n ein gwneud ni’n wahanol. Mi ddylet ti fod yn falch o’r hyn sy’n dy wneud ti yn TI!

Mi ddylai’r rhai sy’n dy fwlio di gael eu stopio. Mae gan bob ysgol bolisi gwrthfwlio ac mi ddylet ti sôn wrth dy bennaeth blwyddyn am yr hyn sy’n digwydd i ti.

Mae’n bwysig dy fod ti’n gwneud dy orau yn yr ysgol. Mae dy ffrindiau ar fai yn gwneud i ti chwalu dy freuddwyd o fod yn ddoctor. Os wyt ti’n parhau i wneud yn wael ar bwrpas efallai y byddi di’n methu â dal i fyny â’r gwaith! Felly, paid â gwastraffu amser. Dos at oedolyn yn yr ysgol sy’n gallu dy helpu di neu at dy rieni i ofyn am help.

Pob hwyl i ti!

 

Sam

19 Mehefin 2016

Annwyl Sam

Rydw i’n ffrindiau gyda Tanwen (nid dyna ei henw iawn). Weithiau, bydda i’n ei phrofocio hi am hwyl a bydd hi yn fy mhrofocio i. Ond ddoe, dywedais rywbeth wnaeth ei brifo’n ofnadwy ac rydw i’n dechrau meddwl fy mod i’n fwli. Nid dyma’r tro cyntaf i fi fynd dros ben llestri. Dydw i ddim yn gwybod sut i ymddiheuro. Plîs, Sam, ga i help?

Janet

12 Mehefin 2016

Annwyl Janet

Mae ffrindiau’n gallu profocio’i gilydd ond mae’n swnio fel petaet ti wedi mynd dros ben llestri y tro hwn. Ond o leiaf rwyt ti’n syrthio ar dy fai.

Dos i gael golwg ar y wybodaeth ar fwlio sydd yn yr adran Explore ar wefan Childline. Edrycha hefyd ar beth sydd gan bobl ifanc eraill i’w ddweud ar dudalennau ‘Bullying’ a ‘Friends’ ar y byrddau negeseuon.

Pob hwyl i ti!

Sam

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
mewn penbleth mewn sefyllfa ddryslyd … - in a bit of a dilemma
mynd dros ben llestri gwneud rhywbeth yn ormodol to go over the top (OTT)
syrthio ar dy fai cydnabod dy fod ti’n anghywir to own up