Dyma ddau lythyr sy’n mynegi dau safbwynt gwahanol.
Annwyl Olygydd,
Mae hi’n adeg anodd yn ariannol, gyda thoriadau’n digwydd ym mhob maes. Clywn am gymaint o dorri’n ôl: llyfrgelloedd yn cau, canolfannau hamdden yn agor am lai o oriau, llai o wasanaethau bysus, dosbarthiadau mewn ysgolion yn mynd yn fwy, rhestrau aros mewn ysbytai’n tyfu, llai o ofal i’r henoed, ac ati. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Felly, ar adeg o gyni ariannol, oes modd cyfiawnhau’r swm mawr o arian cyhoeddus – bron i £11m – y mae’r Cwmni Opera Cenedlaethol yn ei dderbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr bob blwyddyn? Pam mae angen gwario cymaint o arian cyhoeddus ar rywbeth elitaidd fel opera? Rhywbeth i’r crach yw opera, y math o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Oni fyddai’n well cael llai o opera a mwy o wasanaethau hanfodol i’n cymunedau bregus ni ledled Cymru?
Yn gywir,
Ben Morris
Annwyl Olygydd,
Hoffwn ymateb i lythyr Ben Morris sy’n honni na allwn ni fforddio rhoi rhagor o arian cyhoeddus i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn bendant, mae modd cyfiawnhau’r £11m o arian cyhoeddus y mae’r Cwmni Opera Cenedlaethol yn ei dderbyn. Fel y gwyddoch, mae cartref y cwmni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae dros 200 o staff parhaol yn cael eu cyflogi, gyda 40 o gantorion yn y corws, a 55 cerddor yn y gerddorfa. Mae’r cwmni’n perfformio i 120,000 o bobl mewn 10 lleoliad drwy Gymru a Lloegr yn flynyddol. Yn ogystal, mae’n mynd allan i gymunedau llai i berfformio i bobl ifanc. Felly, ai rhywbeth elitaidd yw opera mewn gwirionedd?
At hyn, rhaid cofio, er bod y Cwmni Opera’n derbyn lawer o arian, ei fod yn cyfrannu i’r economi hefyd. Mae adeilad fel Canolfan Mileniwm Cymru yn cynhyrchu incwm mawr yng Nghaerdydd, i fwytai a gwestai ac ati, hyd at bum gwaith yr arian y mae’r Cwmni Opera yn ei dderbyn, yn ôl rhai. Felly, mae’r buddsoddiad yn talu ar ei ganfed!
Mae’n costio llai i weld opera nag y mae’n ei gostio i weld gêm rygbi: y llynedd, £28.50 oedd cyfartaledd pris tocyn. Faint yw cost mynd i weld gêm rygbi erbyn hyn? Yn ogystal, mae rhai o dan 30 oed yn gallu dewis eu seddi am £5 yn unig. Mae hyn yn denu llawer o bobl ifanc i weld opera a mwynhau pethau gorau bywyd.
Yn ddiweddar, clywais fod David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni Opera Cenedlaethol wedi dweud bod perygl y byddwn ni’n ‘troi’n ôl yn anifeiliaid’ os na fyddwn ni’n rhoi arian cyhoeddus i sefydliadau celfyddydol. Dywedodd fod y gymdeithas yn creu digon o arian dros ben i dalu am bethau hyfryd fel y celfyddydau, a heb y pethau hyn, byddem yn troi’n ôl yn anifeiliaid. Rwy’n cytuno gant y cant.
Felly, yn bendant, mae modd cyfiawnhau’r arian cyhoeddus sy’n cael ei roi i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn gywir,
Marilyn Hughes