Gyrfaoedd ym myd arian
Hoffech chi weithio ym myd arian? Dyna mae Bedwyr eisiau ei wneud:
Annwyl Gyrfaoedd yng Nghymru,
Tybed a allwch chi fy helpu i? Mae gen i ddiddordeb ysol mewn cael gyrfa ym myd arian.
Pan oeddwn i’n ddim o beth, byddwn i’n edrych i weld sut roedd y bunt yn codi ac yn disgyn yn erbyn yr euro a’r ddoler. Erbyn hyn, rwy’n dilyn hynt a helynt y farchnad stoc a gwahanol gwmnïau.
Byddwn wrth fy modd pe gallwn i gael swydd ym myd arian. Heblaw am weithio mewn banc, pa ddewis arall sydd? Pa bynciau y dylwn i fod yn eu hastudio i TGAU a Safon Uwch? Yn ogystal, dydw i ddim wir eisiau gadael Cymru, felly pe gallech chi awgrymu gyrfa y gallwn ei dilyn yng Nghymru, byddai hynny’n wych.
Diolch yn fawr am bob cymorth.
Hwyl,
Bedwyr Williams (14 oed)
Annwyl Bedwyr,
Diolch yn fawr am dy e-bost. Mae’n ddiddorol gweld bod pobl ifanc yn ymddiddori cymaint ym myd arian. Mae angen pobl fel ti arnon ni yma yng Nghymru!
Banciau a Chymdeithasau Adeiladu
Fel y soniaist ti, swydd gyda banc neu gymdeithas adeiladu yw’r dewis amlwg wrth feddwl am yrfa ym myd arian. Mae angen pobl mewn canolfannau cyswllt i drafod â chwsmeriaid dros y ffôn, dros Skype neu’r cyfryngau cymdeithasol a hefyd wyneb yn wyneb yn y canghennau. Mae’r swyddi’n amrywio o fod yn ariannwr mewn cangen i reolwr banc, gyda swyddi arbenigol eraill ym maes TGCh, Marchnata, Ymchwil a Datblygu ac ati. Felly gall fod yn ddefnyddiol i ti astudio TGCh, mathemateg, busnes, neu economeg.
Mae gweithio i fanc neu gymdeithas adeiladu’n ddewis doeth os wyt ti eisiau aros yng Nghymru gan fod swyddi hwnt ac yma ledled y wlad. Wedi dweud hynny, mae llawer o ganghennau banc wedi cau’n ddiweddar.
Cyfrifeg
Wyt ti’n dda mewn mathemateg? Er mwyn bod yn gyfrifydd, bydd angen gradd mewn mathemateg, a bydd angen iti basio arholiadau pellach hefyd. Mae cyfrifydd yn gofalu am gyfrifon unigolion neu gwmnïau, e.e. gwneud yn siŵr fod person neu gwmni’n talu’r dreth gywir. Mae cwmnïau bach a mawr yn gwneud y gwaith hwn ac mae swyddi ar gael ym mhob cwr o Gymru, fwy neu lai.
Yswiriant
Mae cwmnïau yswiriant yn cynnig yswiriant yn erbyn rhywbeth gwael a allai ddigwydd, e.e. yswirio’r car rhag damwain, yswirio’r tŷ rhag difrod tân neu lifogydd, yswiriant bywyd. Mae gweithwyr ym maes yswiriant yn cydweithio’n agos â meddygon, cyfreithwyr a swyddogion tân er mwyn asesu risg cyn cynnig polisi yswiriant neu os yw cleient yn hawlio yn erbyn polisi yswiriant.
Un o brif gwmnïau yswiriant Prydain yw Admiral, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, felly gallai’r cwmni fod o ddiddordeb i ti pe hoffet ti fyw a gweithio yn ne Cymru.
Cynllunio ariannol
Mae swyddi yn y maes hwn yn canolbwyntio ar roi cyngor i unigolion a chwmnïau fel y gallan nhw gynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol. Bydd cynghorydd ariannol yn edrych ar incwm person ac yn rhoi cyngor iddo, e.e. gall awgrymu ffyrdd o fuddsoddi’r arian fel bod gan y person bensiwn yn y dyfodol.
Os wyt ti’n hollol siŵr yn barod dy fod eisiau bod yn gynghorydd ariannol, mae modd astudio cwrs penodol yn y maes. Neu, mae economeg, busnes neu fathemateg yn bynciau da i’w hastudio. O ran aros yng Nghymru, mae cynghorwyr ariannol yn gweithio ym mhob rhan o’r wlad.
Wel, Bedwyr, dyna’r prif feysydd lle gallet ti ddilyn gyrfa ym myd arian. Gobeithio y bydd rhai ohonyn nhw o ddiddordeb i ti, ac mae croeso i ti gysylltu â mi eto os oes arnat ti eisiau rhagor o gyngor.
Hwyl am y tro,
Mari Taylor,
Gyrfaoedd yng Nghymru