Y Bathdy Brenhinol

Rhifyn 38 - Arian
Y Bathdy Brenhinol

Y Bathdy Brenhinol

 

Oes gennych chi ddarnau arian? Os felly, maen nhw’n dod o’r Bathdy Brenhinol (Royal Mint) yn Llantrisant.

Bathdy Brenhinol

Yn y Bathdy Brenhinol mae pob darn o arian ym Mhrydain yn cael ei fathu. Ond nid dim ond darnau arian Prydain chwaith – mae’r Bathdy Brenhinol yn bathu arian 60 gwlad, o Jamaica i Seland Newydd, ac o Wlad yr Iâ i Hong Kong.

Dim ond darnau arian sy’n cael eu bathu yn Llantrisant. Cwmni o’r enw De la Rue sy’n gwneud arian papur.

Faint o ddarnau sy’n cael eu bathu?

Bob munud, mae 750 darn o arian yn cael eu bathu, sef tua 90 miliwn o ddarnau arian yr wythnos, bron i 5 biliwn y flwyddyn.

Pam mae ‘brenhinol’ yn yr enw?

Mae rhyw fath o Fathdy Brenhinol yn gwneud arian ers y nawfed ganrif. Am amser hir, doedd dim teledu a phapurau newydd, a doedd dim Rhyngrwyd. Gweld llun ar ddarn arian oedd yr unig ffordd o weld sut roedd y teyrn yn edrych.

O adeg Harri’r VIII ymlaen, mae llun y teyrn ar y darn arian wedi newid wrth iddo heneiddio. Mae pum llun o’r Frenhines Elizabeth wedi bod ar ddarnau arian.

Lleoliad y Bathdy Brenhinol

  • Roedd y Bathdy Brenhinol yn Nhŵr Llundain o 1279 i 1809.
  • Symudodd i’r Gwynfryn, wrth ymyl y Tŵr, yn 1810.
  • Ym mis Rhagfyr 1968, agorodd y Frenhines y Bathdy Brenhinol newydd yn Llantrisant, de Cymru.

Dylunio’r arian

Edrychwch ar y darnau arian sydd gennych chi. Mae lluniau gan artistiaid ar bob un. Os edrychwch chi drwy chwyddwydr ar waelod y darn, fe welwch chi lythrennau blaen yr artist. Er enghraifft, Christopher Ironside a wnaeth luniau ar ddarnau arian cyn 2008, felly mae C.I i’w weld. Ers 2008, lluniau Matthew Dent sydd ar y darnau.

Chwith, dde, chwith, dde

Heb edrych ar ddarn arian, ceisiwch ateb y cwestiwn hwn: i ba gyfeiriad mae’r Frenhines Elizabeth II yn wynebu?

Cliw: Mae’r teyrn yn wynebu i’r chwith neu i’r dde bob yn ail. Roedd y Brenin Siôr VI, tad y Frenhines Elizabeth, yn wynebu i’r chwith.

Cynffonnau

Mae dros 100 o luniau gwahanol ar gefn, neu gynffon, darnau arian Prydain.

Ydych chi wedi gweld llun tarian ar gefn darn £1? Ers 2008 mae lluniau o ddarnau o’r darian ar y darnau 1c, 2g, 5c, 10c, 20c a 50c. Os rhowch chi nhw at ei gilydd, mae’r darian gyfan i’w gweld. 

Darn £1 newydd yn 2017 

 

Bydd darn £1 newydd yn cael ei gyflwyno yn 2017. Bydd yn dod yn lle’r ‘bunt gron’, oherwydd bod mwy a mwy o ddarnau ffug. Bydd y darn newydd yn anodd ei gopïo ac yn cynnwys:

  • siâp 12 ochrog
  • metel o ddau liw (yn debyg i’r darn £2)
  • delwedd gudd

Gofynnwch i aelodau hŷn y teulu a ydyn nhw’n cofio’r hen ddarn tair ceiniog. Bydd y darn £1 newydd yr un siâp â hwn.

 

Medalau             

Hefyd, mae’r Bathdy Brenhinol yn cynhyrchu medalau:

  • medalau milwrol, fel Croes George
  • medalau i gofio digwyddiadau brenhinol fel Jiwbilî’r Frenhines
  • medalau Olympaidd a Pharalympaidd.

Cynhyrchodd y Bathdy Brenhinol 4,700 medal ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Roedd diamedr y medalau aur yn 76 milimetr, a dyma’r medalau mwyaf, a’r trymaf erioed i Gemau’r Haf. Roedd pob medal yn cymryd deg awr i’w gwneud.

Gweld y gwaith yn Llantrisant 

Mae hi’n bosibl mynd ar daith dywys o amgylch y Bathdy Brenhinol. Cewch wneud llawer o bethau:

  • cael gwybod am hanes bathu arian ym Mhrydain
  • dod i ddeall sut mae arian yn cael ei fathu
  • gweld peiriannau’n bathu arian
  • gweld arddangosfa o ddarnau arian hen a newydd
  • bathu darn o arian eich hun.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Y Bathdy Brenhinol lle mae arian Prydain a gwledydd eraill yn cael ei fathu The Royal Mint
bathu gwneud arian to mint, to coin
heneiddio mynd yn hŷn to get older, to age
teyrn brenin neu frenhines monarch
traddodiad arfer tradition
ffug ddim yn iawn false, counterfeit
delwedd llun image