Y bara brith gorau yn y byd!

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Y bara brith gorau yn y byd!

Nid The Great British Bake Off yw’r unig gystadleuaeth bobi. Ym mis Tachwedd 2016, roedd cystadleuaeth gan gwmni Creision Jones o Gymru. Enw’r gystadleuaeth oedd ‘Pencampwriaeth Bara Brith y Byd’.

Dyma wybodaeth am y gystadleuaeth o’r rhaglen ‘Heno’: 

Loading the player...

 https://twitter.com/JonesoGymru/status/799597119988531200

 

Cafodd Gweiddi sgwrs ag enillydd y wobr, Delyth Jenkins (DJ).

Cyfweliad
   
Gweiddi: Ble gawsoch chi wybod am y gystadleuaeth?
DJ: Rwy’n aelod o Ferched y Wawr, ac roeddwn i mewn cyfarfod lleol pan glywais am y gystadleuaeth.
Gweiddi: Oeddech chi’n gwybod yn syth eich bod chi eisiau cystadlu?
DJ: Oeddwn. Rwy’n hoff iawn o bobi cacennau. Wedi dweud hynny, doeddwn i ddim wedi gwneud llawer o fara brith. Roeddwn i’n gwybod bod rysáit gyda fi yn rhywle oddi wrth fy modryb.
Gweiddi: Aethoch chi ati i bobi’n syth?
DJ: Do, fe wnes i ddwy dorth i ymarfer. Yn y diwedd, roedd hi’n nos Fawrth arna i’n gwneud y bara brith terfynol, ac roedd hi i fod i gyrraedd gogledd Cymru erbyn dydd Iau.
Gweiddi: Aeth popeth yn iawn gyda’r pobi?
DJ:

Fe fuodd y dorth fara brith tua 10 munud yn hirach yn y ffwrn nag roedd hi i fod yno. Ond doedd dim gwahaniaeth achos roeddwn i wedi ei choginio mewn ffwrn Aga. Doedd y gwres ddim yn uchel.

Gweiddi: Beth ddigwyddodd wedyn?
DJ: Wel, roedd rhaid cael y dorth yn barod i’w hanfon i’r gogledd. Gadewais hi i oeri dros nos. Roeddwn i’n poeni y byddai hi’n torri ar y ffordd, felly roedd angen ei lapio hi’n ofalus iawn a’i rhoi mewn bocs cadarn.
Gweiddi: Sut glywoch chi eich bod chi wedi ennill?
DJ: Roeddwn i’n disgwyl galwad ffôn ar y diwrnod roedd Creision Jones yn mynd i ddweud pwy oedd wedi ennill. Ond ddaeth dim galwad. Felly, doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i wedi ennill. Penderfynais wylio ‘Heno’ i gael gweld pwy oedd wedi ennill. Cefais sioc fy mywyd pan glywais fy enw! Roedd hi’n syndod clywed bod 70 wedi cystadlu, a bod un dorth fara brith wedi dod yr holl ffordd o Awstralia.
Gweiddi:

Beth oedd y wobr?

DJ: Roedd gwobr o £100. Hefyd, byddwn ni’n cael bocs o Greision Jones bob mis am flwyddyn, a bydd Canolfan Fwyd Bodnant yn cynhyrchu’r bara brith. Hefyd, bydd y bara brith yn cael y teitl: Y Bara Brith Gorau yn y Byd!