Gwyliau bwyd ym mhobman!

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Gwyliau bwyd ym mhobman!

Darllenwch y darn hwn:

O Gonwy i Gasnewydd, o’r Fenni i’r Wyddgrug, ac o Sir Benfro i Langollen, mae gwyliau bwyd wedi tyfu fel madarch ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gwyliau’n digwydd drwy gydol y flwyddyn, ac yn enwedig dros yr haf.

Mae rhai gwyliau, fel Wythnos Bysgod Sir Benfro a Gŵyl Bysgod Aberaeron yn canolbwyntio ar bysgod, ond mae’r rhan fwyaf yn wyliau bwyd a diod o bob math.

Y Fenni’n arwain y ffordd

Gŵyl Fwyd y Fenni yw un o’r rhai hynaf yng Nghymru. Mae’n cael ei chynnal ym mis Rhagfyr, ychydig wythnosau cyn y Nadolig.

Cafodd ei sefydlu yn 1999 gan ddau ffermwr lleol oedd eisiau dangos bod ffermydd lleol yn cynhyrchu bwydydd gwych. Yn 1999 aeth tua thair mil o bobl i’r Ŵyl, ac roedd llond dwrn o wirfoddolwyr yn rhedeg y stondinau. Erbyn hyn, mae dros 30,000 o bobl yn ymweld â hi ac mae’r Ŵyl yn costio tua £420,000 i’w chynnal.

 

Beth allwch chi ei ddisgwyl mewn gŵyl fwyd?

Yn ogystal â degau o stondinau, gallwch ddisgwyl:

  • gweithdai coginio
  • arddangosfeydd coginio
  • cyfle i brofi bwyd
  • cerddoriaeth fyw
  • teithiau cerdded i chwilio am fwyd ‘gwyllt’
  • gweithgareddau o bob math i blant
  • celf a chrefft

Fel y gwelwch chi o’r rhestr, nid dim ond profi bwyd mae pobl eisiau ei wneud nawr, ond hefyd maen nhw eisiau gwneud rhywbeth ymarferol, e.e. gwneud pice ar y maen neu wneud selsig.

Cyfraniad i’r ardal leol?

Os edrychwch chi ar wefannau gwyliau bwyd Cymru, maen nhw’n aml yn pwysleisio’r cyfraniad y maen nhw’n ei wneud i’r economi leol. Er enghraifft, mae Wythnos Bysgod Sir Benfro yn cyfrannu tua £2.7 miliwn i’r economi leol. Yn ôl Nick Miller, sydd wedi ymchwilio i gyfraniad gwyliau bwyd, maen nhw’n werth hyd at £35 miliwn i economi Cymru.

Hefyd, mae gwyliau’n gwneud cyfraniad cymdeithasol. Er enghraifft, yng Ngŵyl Fwyd y Fenni:

  • Mae dros 120 o bobl ifanc leol yn cael gwaith stiwardio, golchi llestri, torri bwyd, ailgylchu a glanhau. Dyma’r tro cyntaf i rai ohonyn nhw gael eu talu am weithio.
  • Mae plant ifanc yn dysgu coginio
  • Mae corau, bandiau a cherddorfeydd lleol yn perfformio.

Y peth pwysicaf yw bod gwyliau bwyd yn hwyl. Pan fydd gŵyl fwyd yn dod i'r dref, mae’n amser cael parti – ac mae pawb yn mwynhau parti!

 

Images © Crown copyright 2016 (Visit Wales).
Lluniau © Hawlfraint y Goron 2016 (Darganfod Cymru).