Blwyddyn Chwedlau

Rhifyn 43 - Ysbrydoli
Blwyddyn Chwedlau

Blwyddyn Chwedlau

Beth yw’r Flwyddyn Chwedlau?

Mae’r Bwrdd Croeso wedi penderfynu ar y thema Chwedlau Cymru er mwyn ceisio denu ymwelwyr i Gymru yn ystod 2017.  Thema’r llynedd oedd antur a Blwyddyn Antur oedd hi. Thema eleni ydy chwedlau ac felly Blwyddyn Chwedlau yw hi.

Pa fath o leoedd sy’n cael eu hyrwyddo?

Mae llawer o leoedd diddorol yn cael eu hyrwyddo, e.e.

  • Castell Caernarfon, sy’n gysylltiedig â Chwedl Macsen Wledig
  • Beddgelert, sy’n gysylltiedig â chwedl Gelert, y ci
  • traethau Borth ac Ynys Las yng Ngheredigion, lle roedd Cantre’r Gwaelod, yn ôl pob sôn
  • Eglwys Gadeiriol Tyddewi, sy’n gysylltiedig â Dewi Sant
  • Tregaron, sy’n gysylltiedig â Twm Siôn Cati
  • Ynys Llanddwyn a’i chysylltiad â Santes Dwynwen.

Dim ond rhai o’r lleoedd diddorol sydd â chysylltiad â chwedlau yw’r rhain, cofiwch!

Sut ddarlun sy’n cael ei greu o Gymru?

Darlun cyffrous, lle mae’r hen a’r newydd yn cyfarfod. Mae’r iaith Gymraeg yn hen ac mae llawer o hen chwedlau yng Nghymru ond mae Cymru’n wlad fodern hefyd lle mae digwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal.

Ydy’r Flwyddyn Chwedlau yn edrych yn ôl gan mai chwedlau yw’r thema?

Mae peth sylw’n cael ei roi i’r gorffennol, wrth gwrs, er enghraifft, mae sôn am Dewi Sant, Hedd Wyn a’r Gadair Ddu a llawer o’r hen chwedlau, ond mae pwyslais hefyd ar greu chwedlau newydd – ar gael profiadau newydd yng Nghymru, drwy fynd i ddigwyddiadau fel gwyliau celf a bwyd a rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, drwy fwynhau’r wifren wib, bownsio o dan y ddaear a syrffio a beicio eithafol yn Eryri.

Mae rhywbeth i bobl ifanc, felly?

Oes, mae rhywbeth at ddant pawb yng Nghymru.

Os ydych chi eisiau darllen mwy, ewch i: croeso.cymru

 

llun gan Neil Schofield / CC GAN

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
hyrwyddo rho hwb i, hysbysebu (to) promote
yn ôl pob sôn mae'n debyg apparently