Camp newydd

Rhifyn 43 - Ysbrydoli
Camp newydd

Camp newydd

Mae Ellis Grover o Gaerfyrddin wedi ei ysbrydoli!

Mae e wedi ei ysbrydoli gan gamp newydd – camp sydd wedi cael ei gwneud yn un o chwaraeon swyddogol Prydain ers Ionawr 2017.

Beth yw’r gamp? 

Gwyliwch y fideo:

https://www.youtube.com/watch?v=yMmrDpsYr0s

Parkour yw enw’r gamp hon – ac mae’n gamp beryglus, fel rydych chi’n gallu gweld!

 

Ellis Grover
Ellis Grover

Mae Ellis yn dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol, ond mae e wedi teithio i lawer o wledydd diddorol fel perfformiwr syrcas gyda chwmni syrcas Pirates of the Carabina:

http://www.piratesofthecarabina.com/.

Mae e wedi bod yn cerdded ar wifrau uchel a pherfformio styntiau rhyfeddol ar draws y byd.

Mae e wrth ei fodd gyda parkour. Dechreuodd e pan oedd e tua 12 oed, pan oedd e a’i ffrindiau’n ymarfer o gwmpas yr ardal. Mae e’n dweud bod parkour wedi newid ei fywyd ond mae’n pwysleisio nad neidio a rhedeg yn unig yw’r gamp. Mae parkour yn bwysig o ran gwneud pobl yn hapus, meddai.

 

Sut mae Parkour yn gwneud pobl yn hapus?

Efallai bod pobl yn nerfus i ddechrau – yn ofnus hyd yn oed – ond maen nhw’n canolbwyntio ar neidio’n ddiogel ac yna, ar ôl llwyddo, maen nhw’n teimlo’n fodlon â’u hunain. Mae pobl yn concro’u hofnau ac yn teimlo’n hapus.

Mae’r gamp yn dod yn llawer mwy poblogaidd, gyda phobl ifanc ar draws Cymru’n cael eu hysbrydoli i’w gwneud hi. Gan ei bod hi’n gamp swyddogol, mae’n bosib y bydd hi’n ymddangos mewn rhai ysgolion ryw ddiwrnod. Pwy a ŵyr?

Gofalus!

Mae’r gamp yma’n beryglus, wrth gwrs. Rhaid meddwl, ystyried ac ymarfer. Peidiwch â’i gwneud hi mewn mannau peryglus a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymarfer y symudiadau’n iawn. Cofiwch wisgo’n briodol hefyd.

Os ydych chi eisiau darllen mwy, ewch i: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38585992

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Pwy a ŵyr? Pwy sy'n gwybod? Who knows?
gwifrau uchel gwifrau sydd wedi eu gosod yn uchel iawn, e.e. mewn syrcas, er mwyn i bobl berfformio arnynt high wires
priodol addas appropriate