Trawiadol!

Mae Mary Lloyd Jones yn artist adnabyddus iawn yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae hi wedi arddangos ei gwaith mor bell i ffwrdd â China ac mae hi wedi cymryd rhan mewn gŵyl arbennig yn Washington, heb sôn am weithio yn Philadelphia, Vermont, India, yr Eidal, Catalonia ac mewn gwledydd eraill hefyd.

Fodd bynnag, Cymru sy’n agos at ei chalon hi. Cymru sy’n ei hysbrydoli hi i beintio. Petai hi ddim yn byw yng Nghymru, mae’n bosib na fyddai hi’n peintio o gwbl, meddai unwaith.

Mae Mary Lloyd Jones yn cael ei hysbrydoli’n arbennig gan yr ardal lle cafodd hi ei geni a’i magu – Pontarfynach yng Ngheredigion.

“Ces i fy magu mewn tirwedd lle roedd rhaeadrau a chreigiau,” meddai ac mae hi’n dangos y dirwedd galed yma yn ei gwaith. Mae hyn yn wahanol iawn i harddwch meddal paentiadau gan rai artistiaid eraill.

Mae hi’n creu darnau mawr sy’n cynnwys siapiau afreolaidd a lliwiau trawiadol i gyfleu’r tir - lliwiau fel coch a phorffor, sef lliwiau’r grug sy’n tyfu dros y dirwedd. Mae haenau o ddelweddau yn ei gwaith.

Edrychwch ar rai o’i lluniau hi ar y we:

http://www.walesonline.co.uk/incoming/gallery/work-by-mary-lloyd-jones-8226783

Mae gan Mary Lloyd Jones ddiddordeb mawr mewn sut roedd pobl yn ysgrifennu amser maith yn ôl. Mae hi’n hoffi’r siapiau a’r llythrennau roedden nhw eu defnyddio ac mae hi’n eu cynnwys nhw yn ei gwaith weithiau.

Edrychwch ar y gwefannau hyn i weld mwy o enghreifftiau o’i gwaith. 

Beth ydych chi’n gallu gweld yn y lluniau hyn?

http://marylloydjones.co.uk/biography/index.html

http://marylloydjones.co.uk/newwork/index.html

Sylwch ar y geiriau hyn:

tirwedd - nodweddion ardal rydych chi'n gallu eu gweld, e.e. mynyddoedd, afonydd, creigiau.

tirlun - darlun o'r dirwedd, e.e. llun neu baentiad.

llun gan Paul

llun gan Paul

llun gan Paul

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
trawiadol ansoddair i ddisgrifio rhywbeth sy'n creu argraff fawr striking
tirwedd mynyddoedd, afonydd, creigiau - beth rydych chi'n gallu ei weld mewn ardal landscape
rhaeadrau ffurf luosog rhaeadr - afon yn llifo dros ddibyn waterfalls
creigiau ffurf luosog craig - cerrig mawr iawn rocks
afreolaidd ddim yn rheolaidd irregular