Diolch, Taid

“Taid sydd wedi fy ysbrydoli i,” meddai Jade Jones, ar ôl ennill teitl Personoliaeth Chwaraeon y BBC yn 2016. Dyma’r ail dro iddi hi ennill a dim ond saith person arall sydd wedi ennill y teitl fwy nag unwaith.

Ond pwy ydy Jade Jones?

Mae hi’n dod o’r Fflint, yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a chafodd hi ei geni ar 21 Mawrth, 1993. Mae hi’n bencampwraig taecwondo – diolch i’w thaid.

Pan oedd hi’n 8 oed, mae’n debyg ei bod hi braidd yn ddrygionus. Felly, er mwyn ei chadw hi allan o drwbwl, aeth ei thaid â hi i glwb taecwondo yn y Fflint. Yno, daeth ei thalent ym maes taecwondo’n amlwg iawn.

Gan ei bod mor ddawnus ac yn barod i weithio mor galed, dechreuodd gael hyfforddiant gan yr hyfforddwyr gorau ym Manceinion bedair gwaith yr wythnos ac yng Nghaerdydd dros y penwythnos weithiau - gyda’i thaid yn ei gyrru i’r dinasoedd hyn fel arfer.

Cefnogaeth leol

Mae’n siŵr bod pobl y Fflint wedi ei hysbrydoli hi hefyd oherwydd daethon nhw at ei gilydd i godi digon o arian - £1,600 - i’w hanfon i gystadlu mewn twrnamaint fyddai’n arwain at y Gemau Olympaidd.

Pencampwraig

Erbyn hyn, mae hi wedi ennill llawer o wobrau pwysig ym myd taecwondo, ond y ddwy bwysicaf, efallai, yw:

  • y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012
  • y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro yn 2016.

Gemau Olympaidd Llundain, 2012

Yn y Gemau Olympaidd yn Llundain, roedd hi’n ymladd yn erbyn Youzhuo Hou o China a oedd wedi ei churo hi o drwch blewyn y flwyddyn gynt ym mhencampwriaeth y byd yn Korea. “Roeddwn i wastad wedi bod eisiau ei churo hi,” meddai Jade. “Cymerodd hi  bencampwriaeth y byd oddi wrtho i y llynedd - mi wnaeth hynny fy lladd i. Doeddwn i ddim yn mynd i adael iddi hi fy nghuro hi o flaen cynulleidfa gartref.

Rhywbeth arall wnaeth ei hysbrydoli oedd gweld llwyddiant aelodau tîm Prydain. “Meddyliais i, ‘Dw i eisiau bod yn rhan o hyn i gyd’” meddai.

Gemau Olympaidd Rio de Janeiro, 2016

Yn y Gemau hyn, curodd hi Eva Calvo Gomez o Sbaen yn y rownd derfynol i ennill y fedal aur.  Roedd hi o dan fwy o bwysau i ennill yn y Gemau hyn gan ei bod wedi ennill yn 2012 ond fel dywedodd Jade, “Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n ddigon da i ennill a byddwn i wedi bod yn siomedig petawn i ddim wedi ennill … Mae ennill eto yn anhygoel. Dw i wedi hyfforddi mor galed ond mae’r holl hyfforddi a’r gwaith caled wedi bod yn werth chweil.”

Proffil taecwondo

Wrth dderbyn y teitl Personoliaeth Chwaraeon y BBC, 2016, dywedodd Jade nad oes llawer o sylw’n cael ei roi i daecwondo. Mae hi’n gobeithio bod ennill Personoliaeth y BBC, 2016 wedi codi proffil y gamp ac y bydd mwy o bobl yn dod i ymddiddori ynddi.

llun gan Singapore 2010 Youth Olympics / CC GAN

llun gan Nizam Uddin / CC GAN

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
o drwch blewyn roedd hi'n gystadleuaeth agos iawn - gallai'r naill neu'r llall fod wedi ennill very narrowly, by a hair's breadth
wastad ar hyd ei hoes always