Lliwiau Llachar

Mae lliwiau yn rhan o’n bywydau pob dydd ac yn rhan o bob agwedd gan gynnwys ein ffordd o feddwl. Allwch chi ddychmygu’r byd heb y lliw gwyrdd er engrhaifft? Rydym yn cysylltu lliwiau â phethau, bwyd, byd natur, teimladau hyd yn oed. Mae rhai o’r cysylltiadau yma yn digwydd heb i ni hyd yn oed feddwl amdanynt . Mae yna lawer o astudiaethau ar sut yr ydym yn dehongli lliwiau a beth mae lliw yn ei gynrychioli.

Dyma arbrawf hwyliog i brofi sut mae eich ymennydd yn ymdopi â lliwiau a geiriau. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu darllen gair yn gynt nag adnabod y lliw. Profwch eich hun gan geisio rhestru lliw y geiriau isod yn hytrach na darllen y gair. Amserwch pa mor gyflym allwch chi eu rhestru yn gywir.

COCH

GWYRDD

GLAS

MELYN

PORFFOR

COCH

OREN

BROWN

GLAS

GWYRDD

Mae lliwiau yn aml yn cael eu cysylltu ag emosiwn. Mae ambell gysylltiad erbyn hyn wedi mynd yn ystrydeb e.e. mae “gweld coch” yn awgrymu bod rhywun wedi gwylltio, neu mae gwyrdd yn cael ei gysylltu â chenfigen. Ond mae’n rhaid cofio bod pawb yn wahanol pan mae hi’n dod at deimladau ac emosiynau.             

Dyma bennill bach am deimlo’n ddryslyd sy’n defnyddio’r lliw llwyd:

Dryslyd.

Llwyd fel cymylau Tachwedd.

Sŵn degau o leisiau yn sibrwd.

Mae’n digwydd pan dwi wedi blino.

Dryslyd.

Mae yna astudiaethau gwyddonol o bob math wedi eu gwneud ar liwiau, am liwiau a gyda lliwiau. Ond mae lliwiau yn bwysig yn ein bywydau creadigol hefyd. Beth am i chi wrando ar dair cân Gymraeg sy’n defnyddio “lliwiau”:

‘Lliwiau’ gan Bendith:

https://www.youtube.com/watch?v=-Dlu8jKSnAg

‘Lliwiau’ gan 9Bach:

https://www.youtube.com/watch?v=vA6kqH-bTuE

Chwiliwch am drac gwych gan y Super Furry Animals o’r enw ‘Lliwiau Llachar’.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
agwedd ffordd o feddwl attitude
isymwybod y rhan o'r meddwl nad yw'r person yn gwybod beth sy'n digwydd yno subconscious
ymdopi delio gyda rhywbeth (to) manage
ystrydeb rhywbeth sy'n gyfarwydd stereotype
gwylltio colli tymer, mynd yn flin (to) get angry
cenfigen gair arall am eiddigedd jealousy