01 Tachwedd 1982

Annwyl ddarllenwyr,

Ysgrifennaf i longyfarch S4C ar ei noson gyntaf o ddarlledu ac i ddweud pa mor hapus ydwyf fod sianel newydd wedi cael ei sefydlu.

Rhaid i mi ddweud nad oeddwn o blaid cael sianel Gymraeg tan yn ddiweddar iawn. A dweud y gwir, roeddwn yn cefnogi penderfyniad y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, a’r Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw, i wrthod sefydlu sianel Gymraeg. Mae pob Cymro a Chymraes yn gallu siarad Saesneg ac mae pawb yn deall rhaglenni Saesneg yn iawn, felly i beth roedd angen gwastraffu arian drwy sefydlu sianel Gymraeg? Ni allwn weld pwrpas i’r holl brotestio a’r ymgyrchu dros sianel Gymraeg a phan welais i bobl ifanc yn dringo i fyny’r mast darlledu ym Mlaenplwyf ar y newyddion, roeddwn yn meddwl eu bod yn hollol wallgof ac yn anghyfrifol dros ben, rhaid i mi gyfaddef.

Heno, fodd bynnag, rwy’n teimlo’n falch iawn dros bawb oedd yn dymuno cael sianel Gymraeg ac rwy’n falch hefyd dros bawb, fel fi, oedd yn gwrthwynebu’r sianel oherwydd rwyf wedi sylweddoli y byddaf yn elwa’n bersonol o’r sianel Gymraeg. Nid fy mod i’n bwriadu ei gwylio, wrth gwrs, ond mae ei sefydlu yn golygu y bydd pob rhaglen Gymraeg oedd ar BBC ac ITV cyn heno yn cael eu symud i’r sianel newydd ac ni fydd rhaid i mi eu goddef nhw byth eto! Yn wir, byddaf yn medru gwylio mwy o raglenni Saesneg ar y ddwy sianel o hyn ymlaen gan y bydd rhaglenni Saesneg newydd yn cymryd lle’r rhaglenni Cymraeg oedd ar y ddwy brif sianel.

Diolch, felly, i bawb a brotestiodd am y sianel. Mae arna i ddyled dragwyddol i chi a dymunaf bob llwyddiant i’r sianel newydd!

 

W. Smith

01 Tachwedd 1982

Noson fythgofiadwy!

Heno, am chwech o’r gloch dechreuodd S4C – sianel deledu Gymraeg! Nawr, mae pedair sianel ar y teledu yn lle tair ac mae un ohonyn nhw’n dangos rhaglenni Cymraeg! O’r diwedd!

Rhaglen gartŵn oedd y rhaglen gynta – rhaglen am dedi anhygoel a dw i’n siwr y bydd y sianel newydd yn anhygoel hefyd! Yna, daeth y newyddion ar y sgrin – a’r newyddion gorau posib wrth gwrs oedd dechrau S4C!

Bydd 20 awr o raglenni Cymraeg ar y sianel bob wythnos a bydd dwy opera sebon – Coleg a Pobol y Cwm (sydd wedi bod ar BBC ers 1974!). Rydyn ni’n mynd i gael pob math o raglenni – rhaglenni newyddion, rhaglenni dogfen, dramâu, ffilmiau, rhaglenni plant, rhaglenni cwis, rhaglenni comedi a chwaraeon a rhaglenni ffermio – a mwy. Dw i’n methu aros. Dw i mor hapus!

Dw i’n teimlo mor ddiolchgar i bawb sy wedi ymgyrchu mor galed dros sefydlu’r sianel, yn enwedig Gwynfor Evans! Hebddo, fyddai dim sianel Gymraeg dw i’n siwr. Fe yw fy arwr i nawr!

Nos da – tan nos yfory! Dw i’n methu aros i weld pa raglenni Cymraeg fydd ymlaen nos yfory – a’r noson wedyn … a’r noson wedyn. Mae’r sianel newydd yn mynd i newid fy mywyd!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Ysgrifennydd Cartref gweinidog yn y llywodraeth yn Llundain sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â Phrydain Home Secretary
sefydlu dechrau (to) establish
ymgyrchu gweithredu dros achos penodol (to) campaign
gwrthwynebu bod yn erbyn rhywbeth (to) oppose
elwa cael elw (to) profit
bythgofiadwy i'w gofio am byth unforgettable