Y Dyn Gwyllt – Tri Thymor

Cyfres ffeithiol yw Y Dyn Gwyllt – Tri Thymor ac, fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’n sôn am ddyn sy’n byw yn y gwyllt am dri thymor.

Enw’r dyn yw Carwyn Jones ac mae’n treulio pum diwrnod yn byw yn yr awyr agored yn Sir Benfro yn ystod yr haf, pum diwrnod ym Mannau Brycheiniog yn ystod yr hydref a phum diwrnod yn Eryri yn ystod y gaeaf. Mae’n amlwg ei fod yn hoffi cael tipyn o antur a’i fod wrth ei fodd yn wynebu heriau newydd, gan gynnwys hela’i fwyd ei hun ac adeiladu lloches er mwyn cael cysgod. 

Mae Carwyn yn berson penderfynol ac ymarferol iawn. Er ei fod yn wynebu her anodd ac er ei fod yn blino’n ofnadwy ac yn teimlo’n wan ar adegau, mae’n gwneud ei orau glas i lwyddo bob tro. Yng nghanol storm ofnadwy yn Sir Benfro, er enghraifft, mae ei hamog, ei sach gysgu a phopeth sydd ganddo yn wlyb sopen.  Mae’n teimlo braidd yn ddigalon ond, yn hytrach na throi am adre, mae’n datrys pob problem, yn parhau â’r antur, ac yna, ar y diwedd, mae’n teimlo’n falch iawn ohono’i hun. Mae’n berson ymarferol iawn hefyd. Mae’n gwybod yn union beth i’w gasglu a’i hela fel bwyd a sut i’w baratoi ac mae’n egluro sut i wneud tasgau pwysig fel cynnau tân ac ati.

Carwyn yw’r prif gymeriad, wrth gwrs ac, fel arfer, mae’n siarad â ni, y gwylwyr. Weithiau, mae’n siarad â’r dyn camera hefyd, ond mae un cymeriad hoffus arall yn y gyfres – Gwen, ci ffyddlon Carwyn. Mae perthynas arbennig iawn yn bodoli rhwng y ddau.

Mae’r golygfeydd yn anhygoel ac mae’r gwaith camera’n wych. Yn y rhaglen ar Sir Benfro, er enghraifft, rydyn ni’n gweld arfordir hardd Sir Benfro, gan gynnwys ambell forlo yn y môr, y traethau a’r bryniau.

Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio’n ardderchog. Ar y dechrau, rydyn ni'n gweld Carwyn yn cyrraedd ac yn cerdded ar hyd un o lwybrau Sir Benfro. Yna, rydyn ni'n ei ddilyn o ddydd i ddydd am bum diwrnod. Ar ddiwedd y rhaglen, rydyn ni'n ei weld yn mynd yn ôl ar hyd y llwybr ac yn ôl i’r man lle y dechreuodd.

Mae hon yn rhaglen hynod o ddiddorol a dw i’n siŵr y bydd llawer yn ei mwynhau. Wedi dweud hynny, mae ambell olygfa allai beri gofid i rai gwylwyr, yn enwedig plant, ac mae gwefan S4C yn awgrymu bod y rhaglen yn anaddas i bobl o dan 16 oed.

Mae’r rhaglen ar S4C ar nos Iau ym mis Mehefin am hanner awr wedi naw*.

*Mae’r wybodaeth yma’n gywir adeg ysgrifennu’r cylchgrawn.

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
her, heriau sialens, sialensys challenges
lloches man i gysgodi rhag y tywydd shelter
penderfynol mae’n gwneud ei orau glas i wneud rhywbeth mae wedi penderfynu arno determined
gwneud ei orau glas gwneud ei orau (to) do his best, his utmost
obsesiynol mynd ar ôl ei obsesiwn obsessive
cyfleu cyflwyno syniad / darlun o rywbeth, awgrymu (to) convey