Dyma sgript Cyflwyniad Llafar sy’n cyfleu pa mor bwerus yw’r gymuned ar y we.

*

 

Llwyfan gwag gydag ambell gadair yma ac acw. Daw Ceri i mewn gan eistedd ar gadair ac agor gliniadur ar ei glin. Mae hi’n teipio yna’n codi ei phen i siarad â’r gynulleidfa.

 CERI: Mae Ceri ar-lein. Mae gan Ceri 867 ffrind. 
Mae hi'n rhoi ei phen i lawr ac yn teipio eto. Yna mae'n codi ei phen ac yn dweud:  
 CERI: Mae Ceri bellach yn ffrindiau gyda Kate. 
 Daw Kate i mewn ac eistedd ar gadair arall. Mae ganddi iPad/Tabled electronic o ryw fath
 KATE: Mae gan Kate 1,065 o ffrindiau.
 K a C: Mae gan Ceri a Kate 23 ffrind yn gyffredin. 
 Mae'r ddwy yn parhau i chwarae gyda'u teclynnau.
Mae Jiao yn dod i mewn, yn chwarae ar ei ffôn.
JIAO: Mae Jiao ar-lein. Mae Jiao yn un o “ffrindiau cyffredin” Ceri a Kate.
KATE: Mae Kate…
CERI: …a Ceri…
JIAO: …wedi eu tagio yn un o luniau Jiao.
Mae Abel yn dod mewn.
(Llun doniol ar daflunydd ar gefn y llwyfan o Ceri, Kate a Jiao.)
ABEL: Mae Abel yn hoffi’r llun. Mae Abel yn un o ffrindiau Jiao.
CERI: Mae Ceri yn hoffi’r llun.
KATE: Mae Kate yn hoffi’r llun.
ABEL: Mae gan Abel a Jiao un ffrind yn gyffredin.
Daw EshAn i mewn.
ESHAN: Mae EshAn yn ffrindiau gydag Abel a Jiao. Mae EshAn yn hoffi'r llun.
CERI: Mae Ceri bellach yn ffrindiau gydag EshAn ac Abel.
Daw Kim i mewn.
KIM: Mae Kim yn un o 867 ffrind Ceri. Mae Kim yn codi arian tuag at Fasnach Deg ac mae ganddi dudalen Just Giving ar y we er mwyn casglu nawdd.
CERI: Mae Ceri yn ei noddi ac yn ail-bostio cyfeiriad ei thudalen.
JIAO: Mae Jiao…
KATE: …a Kate yn noddi Kim ar ei thudalen Just Giving.
JIAO: Mae Jiao yn ail-bostio cyfeiriad y dudalen.
ABEL: Mae Abel yn noddi Kim.
ESHAN: Mae EshAn yn noddi Kim ac yn ail-bostio cyfeiriad ei thudalen.
KIM: Mae 129 o 860 ffrind EshAn yn noddi Kim. Mae 543 person yn noddi Kim ar ei thudalen Just Giving. Nid yw Kim wedi cyfarfod â 432 ohonynt. Daw peth o’r arian mae Kim yn ei gasglu tuag at Fasnach Deg o…
CERI: Gymru.
KATE: Lloegr.
JIAO: China.
ABEL: Portiwgal.
ESHAN: Iran.
KIM: A Chanada.

.